Mae Dyletswydd yn rhwymedigaeth gyfreithiol y disgwylir i Iechyd Cyhoeddus Cymru ei chyflawni i fodloni safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyfraith newydd i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Fe’i gelwir yn Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.
Mae'n cynnwys Dyletswydd Ansawdd sy'n golygu bod gan holl sefydliadau’r GIG gyfrifoldeb cyfreithiol i wella ansawdd y gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn barhaus. Mae’r Ddyletswydd hefyd yn berthnasol i sut mae Gweinidogion Cymru yn rheoli swyddogaethau iechyd yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu’r diffiniad a ganlyn o’r hyn y mae Ansawdd yn ei olygu i ofal iechyd yn eu canllawiau:
'Diffinnir ansawdd fel diwallu anghenion y boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu yn barhaus, yn ddibynadwy ac yn gynaliadwy.'
Mae’r Ddyletswydd Ansawdd yn berthnasol i holl staff GIG Cymru, p’un a ydynt yn gweithio mewn rolau clinigol (fel meddygon neu nyrsys) neu wasanaethau anghlinigol (fel porthorion a rolau gweinyddol).
Nod y Ddyletswydd yw:
Mae angen i bob sefydliad iechyd, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, sicrhau bod gwasanaethau’n ddiogel ac yn ddibynadwy i bawb sy’n eu defnyddio drwy fodloni 12 o Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal newydd (gweler isod). Mae’r safonau hyn yn rhan o’r Ddyletswydd Ansawdd a gyflwynwyd ar 1 Ebrill 2023.
Mae’r Ddyletswydd Ansawdd wedi cyflwyno 12 safon newydd i helpu sefydliadau iechyd, fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, i ddeall sut olwg sydd ar ansawdd da. Maent yn ein helpu i ddatblygu ein cynlluniau i fesur, monitro a darparu ansawdd yn ein gwasanaethau. Mae diffiniad ar gyfer pob un o'r safonau i'w weld yn y Canllaw Statudol Dyletswydd Ansawdd sydd i'w weld yma.
Wrth ddatblygu’r Canllawiau ar y Ddyletswydd Ansawdd, penderfynodd Llywodraeth Cymru fod y Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal newydd (2023) yn disodli’r Safonau Iechyd a Gofal blaenorol (Ebrill 2015).
Mae’r deuddeg safon yn cynnwys chwe pharth ansawdd (mae parth yn faes penodol neu’n bethau yr hoffem gael gofal iechyd o ansawdd da):
Mae'r chwe safon arall yn amlinellu'r hyn sydd ei angen i gefnogi gwasanaethau iechyd o ansawdd da:
Mae'r diagram hwn yn dangos y chwe pharth ansawdd a gefnogir gan y chwe galluogwr ansawdd.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma am ystyr y safonau hyn.
Fel rhan o'r Ddyletswydd newydd, mae'n ofynnol i Iechyd Cyhoeddus Cymru adrodd a rhannu ein cynnydd ar berfformiad ein gwasanaethau, a sut rydym yn cyflawni ein rhwymedigaethau i'r Ddyletswydd Ansawdd.
Gweler yr adran isod ar Adrodd ar y Ddyletswydd Ansawdd am ragor o wybodaeth.
O dan y Ddyletswydd, mae angen i’r holl sefydliadau iechyd, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, lunio Adroddiad Ansawdd Blynyddol sy'n rhoi gwybodaeth am ein cynnydd o ran gwella ansawdd ein gwasanaethau. Bydd yr adroddiad cyntaf yn cael ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2024.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adrodd yn rheolaidd ar ei gynnydd ar berfformiad ein gwasanaethau, a sut rydym yn cyflawni ein rhwymedigaethau i fodloni'r Ddyletswydd Ansawdd. Rydym yn adrodd ar yr wybodaeth hon mewn nifer o ffyrdd ar ein tudalennau rhyngrwyd. Gall y dolenni canlynol fynd â chi at ragor o wybodaeth:
Mae'r fideo hwn yn helpu i egluro yr hyn y mae'r Ddyletswydd Ansawdd yn ei olygu i bob un ohonom.
Gallwch hefyd ddarllen mwy yma am Ganllawiau a Safonau’r Ddyletswydd Ansawdd.