Bydd adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig yn cael ei gyhoeddi ar 20 Mai 2024 ar wefan yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig.
Mae’r Ymchwiliad Gwaed Heintiedig yn Ymchwiliad statudol cyhoeddus annibynnol a sefydlwyd i archwilio’r amgylchiadau lle cafodd dynion, menywod a phlant a gafodd driniaeth gan wasanaethau iechyd gwladol yn y Deyrnas Unedig waed heintiedig a chynhyrchion gwaed heintiedig, yn enwedig yn y 1970au a’r 1980au.
Mae cwestiynau ac atebion cyffredin am yr Ymchwiliad ar gael gan Wasanaeth Gwaed Cymru.
Mae gwasanaeth profi gartref am ddim ar gael yng Nghymru y gallwch ei ddefnyddio i brofi am feirysau a gludir yn y gwaed.
Dylai unigolion ystyried cael prawf os cawsant drallwysiad gwaed cyn mis Medi 1991, ac nad ydynt yn flaenorol wedi’u profi am feirws a gludir yn y gwaed.
I bobl a gafodd drallwysiad gwaed cyn mis Medi 1991, mae'r risg o fod wedi cael haint yn isel iawn. Ers 1991, mae’r holl roddwyr gwaed yn cael eu sgrinio am feirysau a gludir yn y gwaed bob tro y maent yn rhoi gwaed.
Os bydd pobl yn profi'n bositif, mae'n hawdd trin Hepatitis C a HIV gyda'r meddyginiaethau diweddaraf.
Er mwyn gwneud cais am brawf gwaed am Hepatitis C, Hepatitis B a HIV, cliciwch isod i wneud cais am eich pecyn prawf gartref am ddim. Os oes angen i chi gael mynediad at brawf mewn ffordd arall, cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:
Ymholiad Gwaed Heintiedig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaldar:
Ymholiad Gwaed Heintiedig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaldar
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:
Yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
Yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
Ymholiad Gwaed Heintiedig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hwyel Dda
Bwrdd Iechydd Addysgu Powys:
Ymholiad Gwaed Heintiedig - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:
Ymholiad Gwaed Heintiedig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe