Neidio i'r prif gynnwy

Yr eryr a rhaglen brechu rhag yr eryr yng Nghymru  

Disgrifiad: Mae’r modiwl hwn yn darparu gwybodaeth allweddol am haint yr eryr, y brechiad rhag yr eryr a’r rhaglen brechu rhag yr eryr genedlaethol yng Nghymru.  

Addas ar gyfer: Holl staff y GIG sy'n gyfrifol am roi'r brechiad rhag yr eryr neu staff sy’n rhoi cyngor ar yr eryr. 

Hyd: 30 munud 

Cofrestru: Gall staff GIG Cymru gael mynediad at y modiwl drwy'r Cofnod Staff Electronig (ESR). I gael rhagor o arweiniad ar sut i gael mynediad at y cwrs trwy ESR cliciwch yma (Saesneg yn unig). 

Bydd angen enw defnyddiwr a chyfrinair ar staff nad oes ganddynt fynediad at ESR neu staff sy'n gweithio y tu allan i GIG Cymru er mwyn gallu cael mynediad at wefan Dysgu@Cymru. I ofyn am enw defnyddiwr a chyfrinair, cysylltwch â Desg Gymorth eAteb ar eateb@wales.nhs.uk, neu ffoniwch 02920 905444, neu gallwch sgwrsio’n fyw ar y wefan. Dywedwch wrthym beth yw eich enw, teitl eich swydd a’ch gweithle a bydd cyfrif yn cael ei greu ar eich cyfer. Os oes gennych gyfeiriad e-bost sy'n gorffen gyda .ac.uk neu .gov.uk, cliciwch yma i hunan-gofrestru. 

Allweddi cofrestru Dysgu@Cymru: Cliciwch ar enw'r cwrs a bydd yn gofyn am eich allwedd cofrestru. Yr allwedd cofrestru ar gyfer practisiau meddygon teulu yw cod W eich practis ac yna ! e.e. W12345! Ar gyfer defnyddwyr eraill nad ydych chi’n siŵr o'ch allwedd, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth ar eateb@wales.nhs.uk.  

Cliciwch yma i gael rhagor o arweiniad ar sut i gael mynediad at y cwrs drwy blatfform Dysgu@Cymru (Saesneg yn unig).