Y feirws papiloma dynol (HPV) a'r rhaglen frechu HPV
Disgrifiad: Mae'r modiwl hwn yn darparu gwybodaeth allweddol am y Feirws Papiloma Dynol (HPV) ac yn amlygu gwybodaeth gyfredol am raglenni brechu HPV yn yr arddegau a dynion hoyw, dynion deurywiol neu ddynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion (GBMSM) yng Nghymru. Mae'n cynnwys gwybodaeth am gymhwysedd, gweinyddu'r brechlyn, yr amserlen a’r dos a argymhellir, gwrtharwyddion, rhagofalon ac adweithiau niweidiol posibl. Mae'n codi ymwybyddiaeth o epidemioleg gyfredol HPV a hefyd effaith y rhaglen frechu HPV.
Addas ar gyfer: Mae wedi'i anelu at weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n darparu ac yn cynghori ar y brechiad HPV yng Nghymru.
Cofrestru: Gall staff GIG Cymru gael mynediad at y modiwl drwy'r Cofnod Staff Electronig (ESR). I gael rhagor o arweiniad ar sut i gael mynediad at y cwrs trwy ESR, cliciwch yma.
Bydd angen enw defnyddiwr a chyfrinair ar staff nad oes ganddynt fynediad at ESR neu staff sy'n gweithio y tu allan i GIG Cymru er mwyn gallu cael mynediad at wefan Dysgu@Cymru. I ofyn am enw defnyddiwr a chyfrinair, cysylltwch â Desg Gymorth eAteb ar eateb@wales.nhs.uk, neu ffoniwch 02920 905444, neu gallwch sgwrsio’n fyw ar y wefan. Dywedwch wrthym beth yw eich enw, teitl eich swydd a’ch gweithle a bydd cyfrif yn cael ei greu ar eich cyfer. Os oes gennych gyfeiriad e-bost sy'n gorffen gyda .ac.uk neu .gov.uk, cliciwch yma i hunan-gofrestru
Allweddi cofrestru Dysgu@Cymru: Cliciwch ar enw'r cwrs a bydd yn gofyn am eich allwedd cofrestru. Yr allwedd cofrestru ar gyfer practisiau meddygon teulu yw cod W eich practis ac yna ! e.e. W12345! Ar gyfer defnyddwyr eraill, os ydych yn ansicr o'ch allwedd cofrestru, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth ar eAteb@wales.nhs.uk.
I gael rhagor o arweiniad ar sut i gael mynediad at y cwrs drwy blatfform Dysgu@Cymru, cliciwch yma.