Wedi'i ddiweddaru ar gyfer tymor ffliw 2025-26
Mae'r wybodaeth yn y fersiwn hon yn seiliedig ar y canllawiau cyfredol o 07.07.2025
Disgrifiad: Mae’n rhoi gwybodaeth am y ffliw a pham mae brechiad rhag y ffliw mor bwysig i bob aelod o staff.
Addas ar gyfer: Mae’r modiwl hwn yn addas ar gyfer holl weithwyr GIG Cymru, gweithwyr gofal iechyd nad ydynt yn rhan o’r GIG, pobl sy’n gweithio mewn cartrefi gofal, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector/sector gwirfoddol.
Hyd: 5 munud
Cofrestru: Gall staff GIG Cymru gael mynediad at y modiwl drwy'r Cofnod Staff Electronig (ESR).
Chwiliwch am brechlyn ffliw yn y catalog cyrsiau ar dudalen hafan “Fy Nysgu” neu ewch yn uniongyrchol i'r modiwl (gofynnir i chi fewngofnodi cyn y gallwch gofrestru). I gael rhagor o arweiniad ar sut i gael mynediad at y cwrs trwy ESR, gweler y canllaw mynediad ESR.
Bydd angen enw defnyddiwr a chyfrinair ar staff nad oes ganddynt fynediad at ESR neu staff sy'n gweithio y tu allan i GIG Cymru er mwyn gallu cael mynediad at wefan Dysgu@Cymru. I ofyn am enw defnyddiwr a chyfrinair, cysylltwch â Desg Gymorth eAteb ar eAteb@wales.nhs.uk, neu ffoniwch 02920 905444, neu gallwch sgwrsio’n fyw ar y wefan. Dywedwch wrthym beth yw eich enw, teitl eich swydd a’ch gweithle a bydd cyfrif yn cael ei greu ar eich cyfer. Os oes gennych gyfeiriad e-bost gyda .ac.uk or .gov.uk ar y diwedd, gallwch hunangofrestru.
Allweddi cofrestru Dysgu@Cymru: Cliciwch ar enw'r cwrs a bydd yn gofyn am eich allwedd cofrestru. Yr allwedd cofrestru ar gyfer practisiau meddygon teulu yw cod W eich practis ac yna ! e.e. W12345! Ar gyfer defnyddwyr eraill, os ydych yn ansicr o'ch allwedd cofrestru, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth ar eAteb@wales.nhs.uk.
Am fwy o arweiniad ar sut i gyrchu’r cwrs, gweler canllaw mynediad Dysgu@Cymru .
Noder: Nid diweddariad clinigol yw'r modiwl hwn. Os ydych chi'n imiwneiddio yn erbyn y ffliw neu'n darparu cyngor ar imiwneiddio dylech gwblhau'r diweddariad Ffliw Clinigol i Gymru 2025-26.