Wedi'i ddiweddaru ar gyfer tymor y ffliw 2025-26
Mae'r wybodaeth yn y fersiwn hon yn seiliedig ar y canllawiau cyfredol ar 18.11.25
Disgrifiad: Mae’r cwrs e-ddysgu sy’n rhoi Diweddariad Clinigol ar y Ffliw i Gymru yn trafod y ffliw a brechiadau ffliw. Mae wedi'i ddiweddaru ar gyfer tymor 2025-26, yn seiliedig ar y canllawiau cyfredol ar 18.11.25.
Mae’r e-Ddysgu yn cynnwys pedwar modiwl:
Modiwl 1: Modiwl craidd - rhaglen brechu rhag y ffliw ar gyfer tymor 2025-26
Mae angen i bawb gwblhau'r modiwl craidd hwn. Mae'n amlinellu'r wybodaeth polisi allweddol yng Nghymru sydd ei hangen ar imiwneiddwyr a'r rhai sy'n darparu cyngor am imiwneiddio ar gyfer tymor y ffliw 2025-26.
Ar ôl i chi gwblhau modiwl 1 gallwch fynd ymlaen i gwblhau'r modiwlau dilynol. Cwblhewch y modiwlau sy’n berthnasol i’ch rôl imiwneiddio chi yn unig:
Modiwl 2: Modiwl brechu oedolion rhag y ffliw
Cwblhewch y modiwl hwn os yw eich rôl yn cynnwys rhoi cyngor am imiwneiddio a/neu roi brechlynnau ffliw i oedolion. Mae'n cynnwys gwybodaeth sy’n benodol i'r grŵp oedran hwn.
Modiwl 3: Modiwl brechu plant rhag y ffliw
Cwblhewch y modiwl hwn os yw eich rôl yn cynnwys rhoi cyngor am imiwneiddio a/neu roi brechlynnau ffliw i blant. Mae'n cynnwys gwybodaeth sy’n benodol i'r grŵp oedran hwn.
Addas ar gyfer: Mae’r cwrs e-Ddysgu Diweddariad Clinigol ar y Ffliw ar gyfer Cymru yn addas ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd sy'n imiwneiddio rhag y ffliw neu'n rhoi cyngor am imiwneiddio rhag y ffliw.
Hyd: Modiwlau 1,2,3 wedi'u cyfuno – 90 munud.
Cofrestru: Gall staff GIG Cymru gael mynediad at y modiwl drwy'r Cofnod Staff Electronig (ESR). Chwiliwch ffliw clinigol yn y catalog cyrsiau ar yr “Hafan Fy Nysgu” neu ewch yn syth at y modiwl. I gael rhagor o arweiniad ar sut i gael mynediad at y cwrs trwy ESR, gweler y canllaw mynediad ESR (Saesneg yn unig).
Bydd angen enw defnyddiwr a chyfrinair ar staff nad oes ganddynt fynediad at ESR neu staff sy'n gweithio y tu allan i GIG Cymru er mwyn gallu cyrchu gwefan Dysgu@Cymru. I ofyn am enw defnyddiwr a chyfrinair, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth eAteb ar eateb@wales.nhs.uk, neu ffoniwch 02920 905444, neu gallwch sgwrsio’n fyw ar y wefan. Dywedwch wrthym beth yw eich enw, teitl eich swydd a’ch gweithle a bydd cyfrif yn cael ei greu ar eich cyfer. Os oes gennych gyfeiriad e-bost gyda .ac.uk or .gov.uk ar y diwedd, gallwch hunangofrestru.
Allweddi cofrestru Dysgu@Cymru: Cliciwch ar enw'r cwrs a bydd yn gofyn am eich allwedd cofrestru. Yr allwedd cofrestru ar gyfer practisiau meddygon teulu yw cod W eich practis ac yna ! e.e. W12345! Ar gyfer defnyddwyr eraill, os ydych yn ansicr o'ch allwedd cofrestru, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth trwy eAteb@wales.nhs.uk.
Am fwy o arweiniad ar sut i gyrchu’r cwrs, gweler canllaw mynediad Dysgu@Cymru (Saesneg yn unig).