Nod y cwrs hwn, a ddatblygwyd gan Wasanaeth Fferylliaeth Arbenigol y GIG (SPS), yw cefnogi gweithwyr a sefydliadau gofal iechyd proffesiynol sy'n ystyried, datblygu, awdurdodi a defnyddio cyfarwyddiadau grwpiau cleifion (PGDs) i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau ymarfer meddyginiaethau NICE (MPG2).
Staff y GIG sydd â chyfrifoldeb dros gyflwyno rhaglenni brechu
40 munud
Gall staff GIG Cymru gael mynediad at y modiwl drwy'r Cofnod Staff Electronig (ESR). I gael rhagor o arweiniad ar sut i gael mynediad at y cwrs trwy ESR cliciwch yma (Saesneg yn unig).
Bydd angen enw defnyddiwr a chyfrinair ar staff nad oes ganddynt fynediad at ESR neu staff sy'n gweithio y tu allan i GIG Cymru er mwyn gallu cael mynediad at wefan Dysgu@Cymru. I ofyn am enw defnyddiwr a chyfrinair, cysylltwch â Desg Gymorth eAteb ar eateb@wales.nhs.uk, neu ffoniwch 02920 905444, neu gallwch sgwrsio’n fyw ar y wefan. Dywedwch wrthym beth yw eich enw, teitl eich swydd a’ch gweithle a bydd cyfrif yn cael ei greu ar eich cyfer. Os oes gennych gyfeiriad e-bost sy'n gorffen gyda .ac.uk neu .gov.uk, cliciwch yma i hunan-gofrestru.
https://learning.nhs.wales/?lang=cy
Cliciwch ar enw'r cwrs a bydd yn gofyn am eich allwedd cofrestru. Yr allwedd cofrestru ar gyfer practisiau meddygon teulu yw cod W eich practis ac yna ! e.e. W12345! Ar gyfer defnyddwyr eraill nad ydych chi’n siŵr o'ch allwedd, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth ar eateb@wales.nhs.uk.
Cliciwch yma i gael rhagor o arweiniad ar sut i gael mynediad at y cwrs drwy blatfform Dysgu@Cymru (Saesneg yn unig).