Bydd holl staff y GIG yng Nghymru yn cael mynediad at e-ddysgu drwy'r Cofnod Staff Electronig (ESR).
Ar gyfer staff nad oes ganddynt fynediad at ESR neu sy'n gweithio y tu allan i GIG Cymru, mae'r mynediad at e-ddysgu drwy Dysgu@Cymru.
Bydd angen enw defnyddiwr a chyfrinair ar ddefnyddwyr i gael mynediad at blatfform Dysgu@Cymru. I ofyn am enw defnyddiwr a chyfrinair cysylltwch ag eAteb@Wales.nhs.uk. Dywedwch wrthym eich enw, teitl swydd a gweithle a bydd cyfrif yn cael ei greu ar eich cyfer. Os oes gennych gyfeiriad e-bost sy'n gorffen â .ac.uk neu .gov.uk, cliciwch yma i hunangofrestru.
Mae’n bosib y bydd gwybodaeth am y cynnydd y byddwch yn ei wneud wrth gwblhau’r cyrsiau – ac ydych chi wedi’u gorffen – yn cael ei rhannu â’ch rheolwr llinell a’ch cydlynydd imiwneiddio lleol.