Neidio i'r prif gynnwy

Mpox (brech y mwncïod)

 

Ar y dudalen hon

 

Cefndir

Mae mpox yn afiechyd prin sy’n cael ei achosi gan haint feirws mpox. Mae'r feirws yn gysylltiedig, ond yn wahanol, i'r feirws sy'n achosi'r frech wen a brech y fuwch.

Mae mpox yn digwydd yn bennaf yng ngorllewin a chanolbarth Affrica. Fodd bynnag, mae rhai achosion wedi'u cofnodi yn y DU, Ewrop a gwledydd eraill. Ers mis Mai 2022 mae achosion o mpox wedi bod yn effeithio ar y DU a gwledydd eraill.

Mae’r risg o ddal mpox yn isel yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael isod:

Mae rhagor o wybodaeth am yr afiechyd a’i arwyddion a’i symptomau ar gael yn y ddolen hon:   

GIG 111 Cymru - Iechyd A i Z: Brech y Mwncïod

Arhoswch gartref a ffoniwch 111 am gyngor os ydych chi'n meddwl bod gennych chi mpox.

 

Triniaeth i mpox

Mae mpox fel arfer yn ysgafn ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella o fewn ychydig wythnosau heb driniaeth.

Ond, os yw'ch symptomau'n fwy difrifol a'ch bod yn mynd yn sâl, efallai y bydd arnoch angen triniaeth yn yr ysbyty.

Mae’r risg o fod angen triniaeth yn yr ysbyty yn uwch ar gyfer:

  • pobl hŷn
  • plant ifanc
  • pobl â chyflwr neu sy'n cymryd meddyginiaeth sy'n effeithio ar eu system imiwnedd

Gall yr haint gael ei drosglwyddo drwy gyswllt agos felly mae'n bwysig ynysu os cewch ddiagnosis ohono.

Efallai y gofynnir i chi ynysu gartref os yw'ch symptomau'n ysgafn.

 

Brechiad i ddiogelu rhag mpox   

Gan fod mpox yn cael ei hachosi gan feirws tebyg i'r un sy'n achosi'r frech wen, dylai’r brechiadau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y frech wen roi lefel dda o amddiffyniad rhag mpox.

 

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

 

 

Mae'r GIG yn cynnig brechiad y frech wen (MVA) i bobl sydd fwyaf tebygol o ddod i gysylltiad ag mpox.

Ymhlith y bobl sydd fwyaf tebygol o ddod i gysylltiad mae:

  • gweithwyr gofal iechyd sy'n gofalu am gleifion sydd ag mpox wedi'i chadarnhau neu yr amheuir bod y frech ganddynt
  • dynion hoyw a deurywiol, yn benodol y rhai sy'n derbyn PrEP neu sydd wedi cael STI yn ddiweddar

Mae'r JCVI hefyd wedi argymell, yn ystod cyfnodau o gyfyngu ar gyflenwad, y dylid blaenoriaethu cynigion brechu ar ôl cyswllt. Rhoddir blaenoriaeth i frechu ar ôl cyswllt ar gyfer y rhai sydd mewn mwy o berygl o gael afiechyd difrifol, gan gynnwys plant o dan bump oed, merched beichiog a phobl sydd ag imiwnoddiffygiant difrifol. Yn ogystal, efallai y bydd pobl sy'n gymwys i gael brechiad cyn cyswllt, er enghraifft dynion hoyw a deurywiol risg uchel, yn cael cynnig brechiad ar ôl cyswllt.

Ym mis Medi 2022, oherwydd nifer y brechiadau sydd wedi'u rhoi eisoes, y gostyngiad yn nifer yr achosion a’r cyflenwad presennol o frechiadau, cytunodd y JCVI mai’r flaenoriaeth nesaf yw cynnig ail ddos i ddynion hoyw, deurywiol a dynion sy’n cael rhyw gyda dynion sy’n wynebu’r risg fwyaf o tua 2 i 3 mis ar ôl eu dos cyntaf. Bydd hyn yn anelu at ddarparu gwarchodaeth barhaol hirach ac yn diogelu'r gymuned rhag cyflwyno dilynol o wledydd lle mae'r feirws yn dal i gylchredeg ar lefelau uwch.

Rydym yn annog pawb sy’n gymwys ar gyfer y brechiad i’w gael pan fyddant yn derbyn gwahoddiad.    

 

Cwestiynau cyffredin mpox

 

Am y brechlyn   

Mae'r brechiad yn cynnwys feirws sydd wedi'i addasu fel na all dyfu yn y corff dynol. Datblygwyd y brechiad Modified Vaccinia Ankara (MVA) yma fel ffurf lawer mwy diogel ar frechiad y frech wen a ddefnyddiwyd yn eang yn y DU a thramor i'r 1970au. Nid yw’r brechiad MVA yn cynnwys feirws y frech wen ac ni all ledaenu nac achosi’r frech wen.

Ym mis Medi 2019, cymeradwyodd y Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau (FDA) yn yr UDA MVA-BN (Jynneos®) (yr hyn sy'n cyfateb i Imvanex® wedi'i labelu yn UDA) ar gyfer atal mpox yn ogystal â'r frech wen (FDA, 2019). Mae’r brechiad wedi’i awdurdodi’n ddiweddar ar gyfer imiwneiddio gweithredol yn erbyn Brech y Mwncïod mewn oedolion yn y DU gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA): (https://products.mhra.gov.uk/search/?search=IMVANEX). Ni ddylai hyn wneud unrhyw wahaniaeth i chi, gan fod eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn argymell y brechiad yn unol â chyngor cenedlaethol.

Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) a’r Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn argymell defnyddio’r brechiad MVA fel rhan o’r ymateb i achosion o mpox.

Mae’r brechiad frech wen sydd ar gael yn cael ei gynhyrchu gan – Bavarian Nordic (MVA-BN). Ar hyn o bryd mae'n cael ei ddosbarthu o dan 2 enw brand, er mai'r un brechiad ydyw.

Yr enwau brand yw:

  • Imvanex
  • Jynneos

Mae’r brechiad MVA-BN wedi cael ei ddefnyddio yn y DU mewn ymateb i’r digwyddiadau presennol a blaenorol.

Gallwch gael y brechiad hwn os ydych wedi cael brechiad y frech wen yn y gorffennol ai peidio.

Bydd y brechiad yn cael ei chwistrellu naill ai o dan eich croen neu i'r croen, yn ddelfrydol i ran uchaf y fraich, gan eich ymarferydd gofal iechyd.

 

Ydi'r brechlyn yn gweithio?

Ar ôl 2 ddos ​​o'r brechiad, mae bron pob person yn datblygu gwrthgyrff ac felly dylent fod â lefel dda o amddiffyniad rhag mpox. Mae’n llai clir pa lefel o amddiffyniad a gewch chi gan un dos – gall hyn fod yn rheswm i osgoi risgiau uchel tan ar ôl yr ail ddos. Mae brechiadau'n gweithio mewn gwahanol ffyrdd. Efallai na fydd un dos yn atal haint yn llwyr ond hyd yn oed os byddwch chi'n dal mpox, ​​ni ddylai'r symptomau fod cynddrwg. Mae'r dos cyntaf yn paratoi eich system imiwnedd fel y gall ymateb yn llawer cyflymach os byddwch yn dod i gysylltiad ag mpox. Mae'r brechiad hefyd yn cymryd amser i weithio. Efallai y bydd yn dechrau gweithio ar ôl ychydig ddyddiau a dylai gyrraedd yr amddiffyniad uchaf erbyn tua 4 wythnos. Oherwydd mai cyflenwadau cyfyngedig o’r brechiad sydd ar gael ar hyn o bryd, bydd y GIG yn dechrau drwy roi un dos i gynifer o bobl gymwys â phosibl. Mae hon yn ffordd deg o ddarparu rhywfaint o amddiffyniad i'r gymuned gyfan. Wrth i fwy o frechiadau ddod ar gael, bydd ail ddos ​​yn cael ei roi i'r rhai sydd â'r risg fwyaf. Bydd hyn o leiaf 2 i 3 mis ar ôl y brechiad cyntaf. Dylai amser hirach rhwng y dos cyntaf a'r ail ddos ​​wella eich amddiffyniad hirdymor. Hyd yn oed ar ôl 2 ddos ​​dylech barhau i fod yn ymwybodol o risgiau a symptomau mpox. Os byddwch yn datblygu’r symptomau, arhoswch gartref a ffoniwch GIG 111 neu glinig iechyd rhywiol.

 

Beth yw sgîl-effeithiau'r brechiad MVA?

Mae gan y brechiad broffil diogelwch da iawn. Fel pob brechiad, gall achosi sgîl-effeithiau, ond ysgafn yw’r rhan fwyaf o’r rhain ac nid yw pawb yn eu cael.  

Gall y sgîl-effeithiau fod yn fwy cyffredin ymhlith pobl sydd wedi cael dos o frechiad byw ar gyfer y frech wen yn flaenorol.

Sgîl-effeithiau'r brechiad

Fel y rhan fwyaf o frechiadau, gall y brechiad achosi sgîl-effeithiau ysgafn weithiau, gan gynnwys: 

  • cur pen
  • oerfel, tymheredd uchel
  • cyhyrau poenus
  • poen yn y cymalau neu’r eithafion 
  • teimlo’n sâl, colli archwaeth bwyd
  • blinder 
  • poen, cochni, chwyddo, caledi neu gosi yn lleoliad y pigiad                  

Mae adweithiau eraill yn brin. Os bydd eich symptomau'n gwaethygu neu os ydych chi'n bryderus, ffoniwch GIG 111 Cymru ar 111 neu eich meddygfa. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

Gallwch roi gwybod am sgîl-effeithiau ymddangosiadol brechiadau a meddyginiaethau drwy'r cynllun Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein yn yellowcard.mhra.gov.uk neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).

 

Gwybodaeth i'r cyhoedd

Os hoffech ddysgu rhagor am y brechiad neu'r clefyd y mae'n ei amddiffyn yn ei erbyn, mae ychydig o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich practis meddyg teulu i gael cyngor os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Eich amddiffyn rhag brech y mwncïod - taflen A4: Saesneg