Mae'r ffliw yn fwy tebygol o fod yn ddifrifol os oes gennych chi gyflwr iechyd tymor hir, os ydych chi'n feichiog, neu'n hŷn.
Gall y ffliw hefyd fod yn ddifrifol i blant ifanc.
Y llynedd yng Nghymru, cafodd bron i filiwn o bobl eu brechlyn ffliw. Mae hynny tua un o bob tri o bobl.
Os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi, hyd yn oed os ydych yn teimlo’n iach, rydych yn fwy tebygol o gael cymhlethdodau o’r ffliw os byddwch yn ei ddal, ac fe’ch cynghorir i gael brechiad y ffliw os:
Mae'r grwpiau canlynol hefyd yn cael eu cynghori i gael brechiad y ffliw i'w hamddiffyn nhw a'r bobl o'u cwmpas:
Bydd y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn cael brechiad y ffliw drwy chwistrell trwyn gan mai dyma’r brechiad ffliw gorau iddyn nhw. Mae'n ddafnau mân sy’n cael eu chwistrellu i fyny'r trwyn ac mae posib ei roi o ddwy oed.
Os yw eich plentyn yn gymwys i gael brechiad y ffliw, dylai ei feddygfa neu nyrs yr ysgol gysylltu â chi. Os ydych chi’n meddwl y gallai eich plentyn fod wedi methu ei frechiad, cysylltwch â'r nyrs ysgol os yw o oedran ysgol, neu'r feddygfa os nad yw yn yr ysgol.
Os ydych chi’n meddwl efallai eich bod wedi methu’r gwahoddiad i gael brechiad y ffliw, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu’ch fferyllfa gymunedol.
Grŵp cymwys | Ble i gael eich brechiad y ffliw |
Plant dwy neu dair oed (oedran ar 31 Awst 2024) | Meddygfa (DS, mewn rhai ardaloedd, mae plant tair oed yn cael cynnig y brechiad mewn meithrinfa) |
Plant ysgolion cynradd ac uwchradd | Ysgol gynradd ac uwchradd |
Plant pedair oed neu hŷn nad ydynt yn yr ysgol | Gwnewch apwyntiad gyda'r Meddyg Teulu |
Plant rhwng 6 mis a dan 18 oed â chyflwr iechyd tymor hir | Meddygfa (DS. bydd plant oedran ysgol gynradd ac uwchradd yn cael cynnig eu brechiad ffliw yn yr ysgol) |
Merched beichiog | Meddygfa, rhai fferyllfeydd cymunedol neu, mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, gan eu bydwraig |
Cyflyrau iechyd tymor hir (oedolion) | Meddygfa neu rai fferyllfeydd cymunedol |
Pobl 65 oed a hŷn |
Meddygfa neu rai fferyllfeydd cymunedol |
Gofalwyr di-dâl | Meddygfa neu rai fferyllfeydd cymunedol |
Gofalwyr cartref | Fferyllfa gymunedol (neu mewn rhai ardaloedd, mae trefniadau eraill) |
Staff gofal cartref | Fferyllfa gymunedol (neu mewn rhai ardaloedd, mae trefniadau eraill) |
Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol | Drwy gyflogwr |
Gweithwyr dofednod sy’n wynebu’r risg fwyaf |
Fferyllfeydd yn y gymuned |
Yn ddelfrydol, dylid rhoi’r brechlyn ffliw cyn i’r ffliw ddechrau lledaenu yn y gymuned. Fodd bynnag, gellir ei roi ar ddyddiad yn ddiweddarach hefyd.
Gall gweithwyr dofednod 18 oed a hŷn sy’n byw yng Nghymru gael brechlyn ffliw GIG Cymru am ddim yr hydref/gaeaf hwn.
Gall cyflogwyr gweithwyr dofednod roi’r llythyr cadarnhad canlynol i staff i fynd ag ef i’r fferyllfa i gael eu brechlyn:
Llythyr ffliw ar gyfer gweithwyr dofednod (Dwyieithog)