Neidio i'r prif gynnwy

Pobl â chyflwr iechyd hirdymor o 6 mis oed

Os oes unrhyw rai o'r canlynol yn berthnasol i chi, rydych yn wynebu risg uwch o gymhlethdodau o'r ffliw hyd yn oed os ydych yn teimlo'n iach, ac os byddwch yn cael y ffliw gallai wneud eich cyflwr iechyd yn waeth. Mae'n bwysig eich bod yn cael brechlyn ffliw os oes gennych unrhyw un o'r canlynol:

  • Diabetes
  • Problem gyda’r galon
  • Cwyn ar y frest neu anawsterau anadlu, gan gynnwys asthma sy'n gofyn am anadlwyr neu dabledi steroid rheolaidd
  • Clefyd yr arennau (o gam 3)
  • Imiwnedd is oherwydd clefyd neu driniaeth (a hefyd cysylltiadau agos pobl yn y grŵp hwn)
  • Afiechyd yr afu/iau
  • Wedi cael strôc neu strôc fach
  • Cyflwr niwrolegol fel clefyd Parkinson, neu glefyd niwronau motor
  • epilepsi
  • Dueg goll neu broblem gyda'r ddueg
  • anabledd dysgu
  • salwch meddwl difrifol
  • pwysau'r corff uwch (Mynegai Màs y Corff o 40 neu uwch) ac yn 16 oed neu drosodd

Gall oedolion yn y grwpiau hyn gael eu brechlyn ffliw yn eu meddygfa, neu drwy fferyllfa gymunedol. Gall plant yn y grwpiau hyn gael eu brechlyn yn eu hysgol os ydynt o fewn y grŵp oedran hwnnw, neu yn eu meddygfa.