Os ydych yn weithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol ac yn dod i gysylltiad uniongyrchol gyda chleifion neu gleientiaid, dylech gael brechiad rhag y ffliw i'ch amddiffyn chi a'r bobl rydych yn gofalu amdanynt. Pan fyddwch yn cael eich brechlyn rydych yn helpu i leihau'r risg o ledaenu haint ffliw.
Mae brechlynnau ffliw'r GIG ar gael am ddim i staff rheng flaen mewn cartrefi gofal a gofalwyr cartref gan y rhan fwyaf o fferyllfeydd cymunedol – ewch â phrawf o'ch cyflogaeth gyda chi pan fyddwch yn mynd am eich brechiad. Mae hyn hefyd yn cynnwys pobl sy'n gweithio mewn cartref gofal i oedolion neu hosbis plant.
Bydd gweithwyr gofal iechyd yn cael eu brechlyn drwy eu cyflogwr. Mae holl sefydliadau GIG Cymru yn annog staff i gael eu brechlyn ffliw bob blwyddyn.
Os ydych yn aelod o sefydliad gwirfoddol ac yn darparu cymorth cyntaf wedi'i gynllunio, neu os ydych yn ymatebwr cyntaf cymunedol, dylech hefyd gael brechlyn ffliw. Gallwch gael hwn o'ch meddygfa neu'r rhan fwyaf o fferyllfeydd cymunedol – ewch â phrawf o'ch rôl gyda chi.
Mae gwahanol fathau o frechlyn ffliw ar gael. Mae rhai yn gweithio'n well mewn gwahanol grwpiau oedran. Ar gyfer yr amddiffyniad gorau, mae'n bwysig cael brechlyn ffliw a argymhellir ar gyfer eich oedran.
Siaradwch â'ch meddyg, nyrs neu fferyllydd cymunedol i gael rhagor o fanylion.