Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn ffliw a beichiogrwydd

Os ydych yn feichiog, bydd cael eich brechlyn ffliw yn helpu i'ch amddiffyn chi a'ch babi yn y groth.

Mae'r brechlyn ffliw yn ddiogel yn ystod pob cam o feichiogrwydd.

Os bydd rhywun sy'n feichiog yn cael y ffliw, mae'r babi yn fwy tebygol o gael ei eni'n gynnar, bod â phwysau geni isel, neu fod yn farwanedig neu farw o fewn ei wythnos gyntaf. Mae'r brechlyn hefyd yn helpu i amddiffyn y babi yn ystod y pedwar i chwe mis cyntaf o fywyd, pan all y ffliw fod yn ddifrifol iawn.

Dylech gael y brechlyn ffliw cyn gynted ag y gwyddoch eich bod yn feichiog (os yw’r brechlyn ar gael). Gallwch ei gael ar yr un pryd â brechlyn y pas, a'r brechlyn COVID-19 os oes angen, ond peidiwch ag oedi eich brechlyn ffliw dim ond er mwyn cael brechlynnau eraill ar yr un pryd.

Os ydych yn feichiog gallwch gael eich brechlyn ffliw yn eich practis cyffredinol, neu drwy fferyllfa gymunedol. Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, mae bydwragedd yn gallu rhoi brechlynnau ffliw.