Neidio i'r prif gynnwy

A oes unrhyw un na ddylai gael brechlyn ffliw?

Ychydig iawn o bobl na all gael y brechiad ffliw. Ni ddylech gael y brechlyn os ydych wedi cael adwaith difrifol (sy'n peryglu bywyd) i’r canlynol:   

  • dos blaenorol o'r brechlyn, neu   
  • gynhwysyn yn y brechlyn.    

Siaradwch â'r sawl sy'n rhoi'r brechlyn i chi os ydych wedi cael adwaith alergaidd difrifol i'r brechlyn neu ei gynhwysion yn y gorffennol.   

Nid yw annwyd neu fân salwch arall yn rheswm i ohirio brechiad rhag y ffliw.  

Os ydych yn sâl a bod gennych dymheredd uchel, dylech ohirio’r brechiad hyd nes eich bod yn teimlo'n well.