Neidio i'r prif gynnwy

Pa weithwyr dofednod sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw?

Yng Nghymru, efallai y byddwch yn gymwys i gael brechlyn ffliw os ydych yn gweithio gydag adar ac yn ymwneud â dal, difa, glanhau, neu brosesu dofednod.  

Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn, yn byw yng Nghymru ac yn bodloni’r meini prawf canlynol i gael brechlyn ffliw:  

1. Rydych yn gweithio ar safle lle mae ffliw adar tybiedig neu wedi’i gadarnhau ac rydych yn: 

  • dal neu ddifa adar 

  • glanhau ardaloedd caeedig 

  • casglu adar sydd wedi marw 

2. Rydych chi’n gweithio’n rheolaidd neu’n ymweld â safleoedd dofednod cofrestredig sydd â 50 neu fwy o adar ac yn: 

  • ymweld yn rheolaidd ag ardaloedd lle mae adar yn cael eu magu neu lle cynhyrchir wyau 

  • casglu neu symud tail o'r man lle mae adar yn cael eu magu neu wyau yn cael eu cynhyrchu 

  • glanhau siediau dofednod ar ôl i'r adar gael eu symud 

  • didoli wyau os yw'r ardaloedd didoli yn rhan o'r uned gynhyrchu 

  • dal neu ddifa dofednod mewn mannau caeedig lle cânt eu magu neu lle cynhyrchir wyau 

3. Rydych yn gweithio mewn unedau prosesu dofednod ac yn: 

  • dal a thrin adar byw 

  • lladd a phrosesu adar 

  • glanhau a diheintio ardaloedd ac offer sydd wedi'u gorchuddio â baw adar 

Mae safleoedd dofednod yn lleoedd lle mae adar fel ieir, hwyaid a thyrcwn yn cael eu cadw a’u magu mewn caethiwed. Mae dofednod yn golygu pob aderyn a gedwir ar gyfer cynhyrchu cig neu wyau, ar gyfer gwneud cynhyrchion eraill, ar gyfer ailstocio adar hela gwyllt, neu ar gyfer bridio.