Neidio i'r prif gynnwy

A fydd y brechlyn ffliw yn fy atal rhag cael ffliw adar?

Na, ni fydd y brechlyn ffliw yn eich amddiffyn rhag ffliw adar. Fodd bynnag, bydd y brechlyn yn darparu amddiffyniad rhag ffliw dynol. Bydd hyn yn lleihau'r risg y byddwch yn cael ffliw adar a ffliw dynol ar yr un pryd, a allai wedyn achosi math newydd o ffliw sy'n lledaenu rhwng pobl. Bydd y brechlyn ffliw hefyd yn helpu i leihau'r risg o salwch difrifol pe baech yn dal y ddau fath ar yr un pryd.