Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wybodaeth ganlynol yn ymwneud â thymor ffliw 2025-2026.

Cymhwystra ar gyfer y brechlyn

Bob blwyddyn yng Nghymru, mae tua miliwn o bobl yn cael eu brechlyn ffliw. Mae hynny'n fwy nag un o bob pedwar o bobl.   

Mae'r ffliw yn fwy tebygol o fod yn ddifrifol os oes gennych chi gyflwr iechyd tymor hir, os ydych chi'n feichiog, neu'n hŷn.   

Gall y ffliw hefyd fod yn ddifrifol i blant ifanc.  

Pwy ddylai gael y brechlyn ffliw?  

Dylech chi gael y brechlyn ffliw os ydych chi:  

  • yn feichiog  
  • yn 65 oed neu hŷn (neu'n troi'n 65 cyn diwedd y rhaglen brechu ffliw – fel arfer ym mis Mawrth bob blwyddyn), neu   
  • rhwng chwe mis a 64 oed gyda chyflwr iechyd hirdymor, gan gynnwys:  
    • problemau gyda'ch brest neu'ch anadlu, fel clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) neu asthma, sydd angen anadlyddion neu dabledi steroid rheolaidd  
    • problem gyda'r galon  
    • clefyd yr arennau (o gam 3)  
    • clefyd yr afu   
    • cyflyrau nerfau, fel clefyd Parkinson neu glefyd niwronau echddygol  
    • anabledd dysgu   
    • salwch meddwl difrifol  
    • diabetes  
    • epilepsi  
    • system imiwnedd wan oherwydd salwch neu driniaeth   
    • diffyg dueg neu broblem gyda'ch dueg, neu  
    • bod dros bwysau yn ddifrifol (mynegai màs y corff (BMI) o 40 neu fwy ac yn 16 oed neu'n hŷn).  

Hyd yn oed os ydych chi'n teimlo'n dda, rydych chi mewn mwy o berygl o fynd yn sâl iawn o'r ffliw os yw unrhyw un o'r uchod yn berthnasol i chi.  

 Dylai'r bobl ganlynol hefyd gael y brechlyn ffliw i helpu i amddiffyn eu hunain a'r rhai o'u cwmpas.  

  • Pobl sy'n byw mewn cartref gofal  
  • Pobl sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda chleifion neu gleientiaid ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol  
  • Pobl ddigartref  
  • Gweithwyr dofednod sydd mewn perygl uchel   
  • Plant dwy a thair oed (oedran ar 31 Awst)   
  • Plant oedran ysgol a phobl ifanc o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 11  
  • Gofalwyr  
  • Ymatebwyr cyntaf ac aelodau o sefydliadau gwirfoddol sy'n darparu cymorth cyntaf brys wedi'i gynllunio  
  • Unigolion sy'n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan 

Bydd y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn cael eu brechlyn yn gyflym a di-boen drwy chwistrell trwyn. Bydd anwedd ysgafn yn cael ei chwistrellu i fyny’r trwyn, trwy’r ddwy ffroen. Y brechlyn chwistrell trwyn yw'r brechlyn ffliw a argymhellir ar gyfer y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc o ddwy oed ymlaen.  

Os yw eich plentyn yn gymwys i gael brechlyn ffliw, dylai’r practis meddyg teulu neu’r nyrs ysgol gysylltu â chi. Os ydych chi'n meddwl y gallai eich plentyn fod wedi methu ei frechlyn, cysylltwch â’r nyrs ysgol os yw o oedran ysgol neu’r â’r practis meddyg teulu os nad yw yn yr ysgol. 

Os ydych chi'n meddwl y gallech fod wedi methu eich gwahoddiad i gael brechlyn ffliw, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu eich fferyllfa leol. 

Sut i gael brechiad y ffliw

Mae'r tabl isod yn dangos pwy all gael y brechlyn ffliw a ble y gallwch ei gael. 

Plant dwy neu dair oed (ar 31 Awst 2025)   Practis meddyg teulu (mewn rhai ardaloedd, bydd y brechlyn yn cael ei gynnig mewn meithrinfeydd i blant tair oed)  
Plant ysgol gynradd ac ysgol uwchradd   Yn yr ysgol  
Plant pedair oed neu hŷn nad ydynt yn yr ysgol   Practis meddyg teulu (bydd angen i chi wneud apwyntiad) 
Plant rhwng chwe mis a 17 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor    Practis meddyg teulu (bydd y brechlyn ffliw yn cael ei gynnig yn yr ysgol i blant oedran ysgol)  
Merched beichiog  Practis meddyg teulu, rhai fferyllfeydd lleol, neu gan eich bydwraig (mewn rhai ardaloedd yng Nghymru) 
Oedolion â chyflwr iechyd hirdymor  Practis meddyg teulu neu eich fferyllfa leol 
Pobl 65 oed neu hŷn    Practis meddyg teulu neu eich fferyllfa leol 
Gofalwyr di-dâl   Practis meddyg teulu neu eich fferyllfa leol 
Gofalwyr yn y cartref (y rhai sy'n darparu gofal yng nghartrefi pobl)  Fferyllfa leol (mae trefniadau eraill mewn rhai ardaloedd) 
Staff cartrefi gofal   Fferyllfa leol (mae trefniadau eraill mewn rhai ardaloedd) 
Gweithiwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol   Drwy eich cyflogwr neu yn eich practis meddyg teulu 
Gweithwyr dofednod sy’n wynebu’r risg fwyaf   Fferyllfa leol   

Yn ddelfrydol, dylid rhoi'r brechlyn ffliw cyn i'r ffliw ddechrau lledaenu. Fodd bynnag, gellir ei roi ar ddyddiad yn ddiweddarach hefyd.  

Oedolion

 

 

Plant a phobl ifanc

 

Gweithwyr dofednod 

Gall gweithwyr dofednod 16 oed a hŷn sy’n byw yng Nghymru gael brechlyn ffliw GIG Cymru am ddim yr hydref/gaeaf hwn.    

Gall cyflogwyr gweithwyr dofednod roi’r llythyr cadarnhad canlynol i staff i fynd ag ef i’r fferyllfa i gael eu brechlyn:    

Llythyr ffliw ar gyfer gweithwyr dofednod (Dwyieithog)