Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn monitro canran y rhai sy'n manteisio ar imiwneiddio rhag ffliw tymhorol bob blwyddyn.
Yn ystod pob rhaglen imiwneiddio rhag y ffliw (rhwng mis Hydref a mis Mawrth fel arfer), rhoddir crynodeb o ganran y rhai sy'n cael eu himiwneiddio bob wythnos yn yr adroddiad wythnosol ar weithgarwch ffliw yng Nghymru. Cyflwynir y ffigurau terfynol bob blwyddyn ar ddiwedd y tymor ffliw mewn adroddiad blynyddol, sydd hefyd yn cynnwys crynodeb epidemiolegol o'r tymor.
Yr adroddiad mwyaf diweddar
Tymor y ffliw 2022-23 yng Nghymru
Prif bwyntiau'r adroddiad 2022/23
- Gwelodd 2022/23 lefelau mwy arferol o ffliw yn dychwelyd yn dilyn cyfnod o weithgarwch isel yn ystod 2020/21 a 2021/22.
- Ffliw A(H3N2) oedd y firws ffliw amlycaf y tymor hwn, ac yna ffliw A(H1N1)pdm09. Canfuwyd niferoedd llai o ffliw B hefyd drwy gydol y tymor.
- Roedd y nifer a gafodd y brechlyn ffliw yn 76.3% ymhlith y rhai 65 oed a hŷn, o gymharu â 78.0% y tymor diwethaf.
- Roedd y nifer a gafodd y brechlyn ffliw yn 44.2% ymhlith cleifion o dan 65 oed mewn un neu fwy o grwpiau risg clinigol, sy’n ostyngiad o gymharu â 48.2% yn 2021/22. Roedd y nifer a gafodd y brechlyn ffliw ymhlith grwpiau risg clinigol ar eu huchaf ymhlith cleifion â diabetes (57.2%) ac isaf ymhlith y rhai a oedd yn afiachus o ordew (40.2%).
- Roedd y nifer a gafodd y brechlyn ffliw ymhlith menywod beichiog yn 60.0% (mesurwyd mewn arolwg blynyddol o fenywod mewn unedau mamolaeth mawr ym mis Chwefror 2023).
- Roedd y nifer a gafodd y brechlyn ffliw ymhlith plant dwy a thair oed, a gafodd eu himiwneiddio’n bennaf mewn practisiau cyffredinol, yn 43.8%. Roedd y nifer a gafodd eu himiwneiddio mewn ysgolion, rhwng pedair a 10 oed, yn 63.8%, a rhwng 11 a 15 oed yn 54.4%.
- Roedd y nifer a gafodd eu himiwneiddio rhag y ffliw ymhlith staff y Bwrdd Iechyd a’r GIG, a adroddwyd gan Adrannau Iechyd Galwedigaethol y Byrddau Iechyd, yn 46.0% yn ystod 2022/23. Roedd 46.7% o staff â chyswllt uniongyrchol â chleifion wedi'u eu brechu rhag y ffliw.
- Cafodd cyfanswm o 160,792 o bobl eu himiwneiddio rhag y ffliw mewn fferyllfeydd cymunedol yn 2022/23, gyda 41% o’r brechiadau’n cael eu rhoi i’r rhai 65 oed a hŷn.
- Cyfanswm yr unigolion yng Nghymru a gafodd eu himiwneiddio rhag y ffliw oedd 1,063,495 ar gyfer 2022/23 (tua 34% o boblogaeth Cymru), o gymharu ag amcangyfrif o 1,117,184 y tymor diwethaf.
Ffeithlun cryno adroddiad 2022/23:
Adroddiadau hanesyddol