Mae’r brechlyn hepatitis B yn cael ei gynnig i bobl y credir eu bod mewn mwy o berygl o gael hepatitis B neu o gael cymhlethdodau. Mae hefyd yn cael ei gynnig i blant fel rhan o'r rhaglen imiwneiddio reolaidd.
Mae Hepatitis B yn haint ar yr iau / afu sy’n cael ei achosi gan feirws hepatitis B, sy’n cael ei ledaenu drwy’r gwaed a hylifau’r corff. Yn aml nid yw’n achosi unrhyw symptomau amlwg mewn oedolion ac fel rheol mae’n pasio ymhen ychydig fisoedd heb driniaeth. Ond mewn plant mae'n aml yn parhau am flynyddoedd a gall achosi niwed difrifol i'r iau / afu yn y pen draw. Mae Hepatitis B yn llai cyffredin yn y DU na rhannau eraill o’r byd, ond mae rhai grwpiau mewn mwy o berygl o’i ddal. Mae hyn yn cynnwys pobl sy'n wreiddiol o wledydd risg uchel, pobl sy'n chwistrellu cyffuriau, a phobl sy'n cael rhyw heb ddiogelwch gyda phartneriaid rhywiol lluosog.
Mae’r brechlyn hepatitis B yn cael ei roi i helpu i’ch amddiffyn chi neu eich babi rhag hepatitis B.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hepatitis B a'r brechlyn yn GIG 111 Cymru - Brechlynnau (safle allanol).
Imiwneiddio babanod
Mae’r brechlyn hepatitis B yn cael ei gynnig i bob babi sydd wedi’i eni ar ôl 1 Awst 2017 fel rhan o amserlen frechu reolaidd y GIG fel brechlyn 6-mewn-1. Mae’r brechlyn 6-mewn-1 yn cael ei gynnig i fabanod pan maent yn wyth, 12 ac 16 wythnos oed.
Mae’r amserlen imiwneiddio reolaidd gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am frechlynnau rheolaidd ac afreolaidd.
Er bod y risg o ddal hepatitis B yn isel yn y DU, mae plant ac oedolion sydd mewn grwpiau sydd â risg uwch o ddal hepatitis B hefyd yn cael cynnig y brechlyn. Os oes gennych chi’r haint pan rydych yn feichiog, mae eich babi mewn perygl o ddatblygu hepatitis B a rhoddir dosau ychwanegol o'r brechlyn iddo.
Brechlyn Hepatitis B yn ystod beichiogrwydd
Gall haint Hepatitis B mewn merched beichiog fod yn ddifrifol i'r fam a gall achosi haint hirdymor i'r babi, felly mae'n bwysig iawn bod merched beichiog sydd â risg uchel o haint hepatitis B yn cael eu brechu.
Nid oes tystiolaeth o unrhyw risg o frechu merched beichiog neu ferched sy’n bwydo ar y fron yn erbyn hepatitis B, gan ei fod yn frechlyn anweithredol (wedi’i ladd).
Babanod sy'n cael eu geni i famau â hepatitis B
Yn ystod beichiogrwydd, cynigir sgrinio am hepatitis B i bob menyw. Mae angen rhoi dosau ychwanegol o'r brechlyn hepatitis B ar enedigaeth, yn bedair wythnos oed, ac yn 12 mis oed i fabanod sy'n cael eu geni i famau sydd wedi'u heintio â hepatitis B.
Ystyrir bod rhai mamau sydd wedi’u heintio â hepatitis B yn risg arbennig o uchel oherwydd eu bod yn hynod heintus. Dylai babanod sy’n cael eu geni i’r mamau risg uchel hyn gael chwistrelliad o imiwnoglobwlin hepatitis B (HBIG) adeg eu geni. Mae HBIG wedi'i wneud o waed ac mae'n cynnwys gwrthgyrff i hepatitis B. Mae'n rhoi amddiffyniad cyflym ond nid yw'n para'n hir. Bydd angen brechlyn hepatitis B ar y babanod hyn hefyd er mwyn eu hamddiffyn yn y tymor hwy.
Dylai pob babi sy’n cael ei eni i fam sydd wedi’i heintio â hepatitis B gael prawf gwaed ar ôl 12 mis i weld a yw wedi ei heintio â hepatitis B.
Brechlyn Hepatitis B ar gyfer y rhai y credir eu bod mewn perygl
Mae pawb sydd mewn grŵp risg uchel yn cael cynnig y brechlyn hepatitis B hefyd. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol.
Pobl sydd ag afiechyd cronig ar yr arennau (cam 4 a 5, gan gynnwys haemodialysis)
Pobl sydd ag afiechyd cronig yr iau / afu (er enghraifft, y rhai sydd ag afiechyd difrifol yr yr iau / afu, fel sirosis o unrhyw achos, neu sydd ag afiechyd llai difrifol ar yr iau / afu ac a allai rannu ffactorau risg ar gyfer cael ei heintio â hepatitis B, fel pobl â hepatitis C cronig).
Pobl sy'n derbyn gwaed neu gynhyrchion gwaed yn rheolaidd (er enghraifft, pobl â hemoffilia, thalasaemia neu anemia cronig arall), neu eu gofalwyr sy'n rhoi'r cynhyrchion hyn
Pobl sy'n chwistrellu cyffuriau
Partneriaid rhywiol, plant neu gysylltiadau teuluol neu gartref agos pobl sy'n chwistrellu cyffuriau
Pobl sy'n newid partneriaid rhywiol yn aml, dynion sy'n cael rhyw gyda dynion neu weithwyr rhyw
Cyswllt cartref, teuluol agos neu rywiol person â haint hepatitis B
Aelodau o deulu sy'n mabwysiadu plentyn o wlad sydd â lefelau uchel neu ganolig o haint hepatitis B
Aelodau agos o deulu neu unrhyw un sy'n rhannu cartref gyda gofalwyr maeth tymor byr sy'n derbyn lleoliadau brys
Aelodau agos o deulu neu unrhyw un sy'n rhannu cartref gyda gofalwyr maeth parhaol sy'n derbyn plentyn sydd wedi’u heintio â hepatitis B
Carcharorion mewn carchardai yn y DU, gan gynnwys os ydynt ar remand
Pobl sy'n byw mewn llety ar gyfer y rhai ag anableddau dysgu
Oedolion neu blant sy'n mynychu gofal dydd, ysgolion a chanolfannau ar gyfer y rhai ag anableddau dysgu ac yr aseswyd eu bod mewn perygl rheolaidd o haint drwy'r croen (fel drwy frathu neu gael eu brathu)
Pobl sydd mewn mwy o berygl o gael hepatitis B oherwydd eu swydd
Pobl sy'n teithio i wledydd sydd â lefelau uchel o hepatitis B
Mae meddygfeydd a chlinigau iechyd rhywiol yn darparu’r brechlyn hepatitis B am ddim fel rheol os ydych chi mewn grŵp sydd mewn perygl. Ar gyfer babanod sy'n cael eu geni i famau risg uchel, mae eu dos cyntaf yn debygol o gael ei gynnig gan fydwraig neu feddyg yn yr ysbyty lle cânt eu geni. Os yw eich swydd chi’n eich rhoi chi mewn perygl o gael haint hepatitis B, cyfrifoldeb eich cyflogwr yw trefnu brechlyn i chi. Os ydych chi’n teithio i wlad risg uchel, efallai y bydd eich meddyg teulu yn gallu rhoi'r brechlyn i chi neu efallai y bydd angen i chi fynd i glinig iechyd teithio (efallai na fydd y GIG yn talu am gost y brechlyn).
Mae brechlynnau Hepatitis B yn cael eu goddef yn dda fel rheol. Y sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin yw dolur a chochni yn safle'r pigiad.
Mae adweithiau eraill yn brin. I gael rhagor o wybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin a phrin, edrychwch ar y canlynol
Brechu yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o hepatitis B. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae'n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau hepatitis B, hyd yn oed os ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich brechu.
I gael rhagor o wybodaeth am hepatitis B ewch i:
NHS 111 Wales - Health A-Z : Hepatitis B (external site)
Hepatitis B - British Liver Trust (external site)
Os ydych chi’n bryderus am unrhyw symptomau, ffoniwch GIG 111 Cymru (safle allanol). Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.
Gallwch roi gwybod am sgîl-effeithiau ymddangosiadol brechlynnau a meddyginiaethau drwy'r cynllun Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein yn yellowcard.mhra.gov.uk neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).
Os hoffech chi gael gwybod mwy am hepatitis B a'r brechlyn, edrychwch ar y rhestr o daflenni isod. Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Ymddiriedolaeth yr Iau Prydain (safle allanol)
GIG 111 Cymru – Vaccinations (safle allanol)
Os ydych chi’n ystyried y brechlyn hwn fel rhan o ddiogelu eich iechyd er mwyn teithio, edrychwch ar ein tudalen Brechlynnau Teithio