Neidio i'r prif gynnwy

Brechiad y pâs (pertwsis) yn ystod beichiogrwydd: Sut i amddiffyn eich babi rhag y pâs

Ar y dudalen hon

Cefndir

Mae brechlyn y pas (pertwsis) yn cael ei gynnig i bob menyw feichiog rhwng 16 a 32 wythnos o feichiogrwydd er mwyn amddiffyn eu babanod rhag y clefyd difrifol hwn. Gallwch gael y brechlyn ar ôl 32 wythnos o feichiogrwydd, ond efallai na fydd yn cynnig yr un lefel o amddiffyniad. Mae angen cael eich brechu ym mhob beichiogrwydd.  

Mae'r pas yn cael ei ledaenu trwy anadlu defnynnau bach o’r haint yn yr aer o beswch a thisian pobl eraill.  

Gall symptomau’r pas mewn babanod gynnwys: 

  • pyliau o beswch difrifol 

  • oedi mewn anadlu 

  • chwydu ar ôl pesychu, a  

  • sŵn 'hŵp' wrth besychu. 

Mae'n bosibl na fydd babanod ifanc bob amser yn datblygu'r sŵn ‘hŵp’ nodweddiadol wrth besychu. Os ydych yn poeni y gallai fod gan eich baban y pas, dylech gysylltu â'ch meddyg ar unwaith. Gall symptomau'r pas bara am ddau i dri mis.   

Mae babanod sy'n rhy ifanc i gael eu brechu rhag y pas yn wynebu risg uwch o broblemau iechyd difrifol fel heintiau difrifol ar yr ysgyfaint (niwmonia) neu, mewn achosion prin, marwolaeth. Mae hyn yn cynnwys babanod dan ddau fis oed, yn enwedig y rhai na chafodd eu mamau eu brechu rhwng 16 a 32 wythnos o’u beichiogrwydd. 

I gael rhagor o wybodaeth am symptomau’r pas, ewch i  

GIG 111 Cymru - Iechyd A-Y Y pas (safle allanol) 

Mae cael eich brechu yn ystod beichiogrwydd yn bwysig. 

Mae'r amddiffyniad a gewch o frechlyn y pas yn cael ei drosglwyddo i'ch baban heb ei eni. Yn ogystal â helpu i'w amddiffyn yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd, nes iddo gael ei imiwneiddiad arferol cyntaf pan fydd yn wyth wythnos oed.  

Mae'r brechlyn hefyd yn eich amddiffyn rhag cael y pas ac yn lleihau'r risg y byddwch yn ei drosglwyddo i'ch baban.   

Nid oes brechlyn sy'n diogelu rhag y pas yn unig. Mae'r brechlyn a roddir i chi yn frechlyn cyfun sy'n diogelu rhag gwahanol glefydau, gan gynnwys y pas. Nid yw'r brechlyn yn fyw, ac ni all achosi'r pas. Byddwch yn cael cynnig un dos o'r brechlyn, a roddir fel pigiad yn rhan uchaf y fraich. 

Cymhwystra ar gyfer y brechlyn

Beichiogrwydd

Gall pob menyw feichiog gael y brechlyn o wythnos 16 o’u beichiogrwydd. Mae'n well cael y brechlyn rhwng 16 a 32 wythnos o feichiogrwydd. Er y gallwch gael y brechlyn ar ôl 32 wythnos, efallai na fydd yn rhoi'r un lefel o amddiffyniad i'ch baban. Mae hyn oherwydd ei bod yn cymryd amser i'r brechlyn weithio. Mae'n bwysig cael eich brechu ym mhob beichiogrwydd, hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn o'r blaen.  

Os na chawsoch chi frechlyn y pas tra'r oeddech chi'n feichiog, gallwch chi ei gael o hyd yn y ddau fis ar ôl yr enedigaeth (hyd nes y bydd eich plentyn yn cael ei ddos ​​arferol cyntaf). Bydd hyn yn eich amddiffyn a gall eich atal rhag trosglwyddo'r pas i'ch baban, er na fydd yn amddiffyn y baban yn uniongyrchol. Os ydych yn bwydo ar y fron, nid oes tystiolaeth o unrhyw risg i'r baban o ganlyniad i gael y brechlyn. 

Imiwneiddio babanod

Yn wyth wythnos oed, bydd angen i'ch baban ddechrau cael brechiadau ar gyfer y pas fel rhan o gynllun imiwneiddio plentyndod arferol y GIG. Cynigir brechlyn y pas i bob baban fel rhan o amserlen frechu arferol y GIG.   

Mae'r amserlenni imiwneiddio arferol ar gyfer Cymru yn rhoi manylion ynghylch pryd y disgwylir i'ch plentyn gael ei frechiadau. 

Am y brechlyn

Diogelwch ac effeithiolrwydd 

Adnoddau

Rhagor o wybodaeth