Mae'r brechlyn 6-mewn-1 (a elwir hefyd yn DTaP/IPV/Hib/HepB), yn helpu i amddiffyn rhag difftheria, tetanws, pertwsis (y pas), polio, Haemophilus influenzae math b (Hib) a hepatitis B.
Ar y dudalen hon
Brechu yw un o'r ffyrdd gorau o amddiffyn eich plentyn rhag salwch difrifol. Mae’r brechlyn 6-mewn-1 yn helpu i amddiffyn rhag:
Cyn brechlynnau, roedd llawer o blant yn y DU yn dal y clefydau hyn bob blwyddyn. Mae brechu wedi lleihau nifer yr achosion hyn ac wedi achub llawer o fywydau.
Mae'r brechlyn 6-mewn-1 (a elwir hefyd yn frechlyn DTaP/IPV/Hib/HepB) yn un o'r brechlynnau cyntaf y bydd eich babi yn eu cael.
Mae'r brechlyn 6-mewn-1 yn helpu i gadw plant yn ddiogel ac yn helpu i amddiffyn cymunedau rhag y clefydau hyn a'r cymhlethdodau iechyd difrifol y gallant eu hachosi.
Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlyn neu'r clefydau y mae'n amddiffyn yn eu herbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. Gallwch chi hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych unrhyw gwestiynau.