Rydym wedi cyflawni sawl prosiect dros y ddwy flynedd ddiwethaf i leihau ein heffaith amgylcheddol sy’n
cyfrannu at agenda datgarboneiddio, economi gylchol ac economi sylfaenol y sefydliad. Mae crynodeb o’r
llwyddiannau a’r cyflawniadau hyn wedi’u nodi isod:
Rydym wedi parhau i ad-drefnu’r ystâd, gan gefnogi staff i weithio'n wahanol yn unol â'n polisi Gweithio Sut
mae'n Gweithio Orau. Mae hyn wedi lleihau ein hôl troed carbon. Rydym yn rhyddhau 60 tunnell yn llai o
CO2e y flwyddyn. Yn ystod y prosiectau hyn mae egwyddorion economi gylchol wedi'u cymhwyso ac yn
cynnwys rhoi dodrefn i gymunedau a dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi. Rydym hefyd wedi
moderneiddio ein swyddfa yn Wrecsam ac wedi sefydlu dau Hwb Sgrinio newydd, gan gynnal yr egwyddorion
o ddod ag iechyd i’r stryd fawr a chefnogi cymunedau lleol. Mae cyfleusterau megis cawodydd a rheseli
beiciau hefyd wedi'u gosod i gefnogi teithio llesol. Yn ogystal â hyn, enillodd y sefydliad achrediad ISO 140001 in ym mis Mai 2023 ar gyfer ein tri phrif safle.
Ym mis Tachwedd 2023, disodlwyd ein Fflyd Sgrinio Ymlediad Aortaidd yn yr Abdomen (AAA) gan gerbydau
hybrid a thrydan. Mae cynlluniau hefyd yn cael eu datblygu i adnewyddu'r fflyd bresennol o fewn Sgrinio
Llygaid Diabetig Cymru (DESW). Bwriedir i’r fflyd gael ei hadnewyddu dros y ddwy flynedd nesaf.
Rydym wedi cefnogi a galluogi staff i weithio gartref gan leihau'r angen i gymudo bob dydd. Anogir staff i
ystyried yr effaith ar yr amgylchedd wrth benderfynu sut i deithio yn ôl ac ymlaen i’r gwaith. Mae'r cynllun
beicio i'r gwaith yn cael ei hyrwyddo i staff ac rydym hefyd wedi cyflwyno hyrwyddwyr teithio iach.
Ym mis Rhagfyr 2022, fe wnaethom gyflawni ymrwymiadau Siarter Teithio Iach Caerdydd ac mae gwaith yn
parhau i ddatblygu siarteri ar gyfer rhannau eraill o Gymru.
Mae gwaith ein Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd wedi parhau i annog a chefnogi newid ymddygiad er budd
iechyd a llesiant ein staff, partneriaid a’r gymuned ehangach. Rydym wedi datblygu Pecyn Cymorth Teithio
Cynaliadwy fel rhan o'r fenter Gweithio Sut Mae'n Gweithio Orau. Mae arolwg i ddeall sut mae staff yn teithio
yn ôl ac ymlaen o’r gwaith hefyd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd. Bydd y canlyniadau'n cael eu defnyddio i
gefnogi staff i wneud dewisiadau teithio iachach a mwy cynaliadwy.
Mae’r Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd hefyd wedi sicrhau cyllid i fwrw ymlaen â phrosiect ymchwil i edrych
ar leihau plastigion untro, ffrydiau gwastraff uchel, Cyfarpar Diogelu Personol ac allyriadau cysylltiedig o
fewn ein labordai microbioleg. Bydd yr ymchwil hon yn llywio'r camau y byddwn yn eu cymryd dros y ddwy
flynedd nesaf.
Trwy weithio gyda Cynnal Cymru-Sustain Wales, rydym wedi datblygu Gwella Cynaliadwyedd i Dimau (SIFT):
Gweithdy Amgylchedd Iach. Mae'r gweithdy rhithwir dwy awr hwn yn galluogi timau gweithle ac unigolion i
nodi a lleihau eu heffeithiau amgylcheddol. Rydym wedi parhau i weithio tuag at ein targed o 20% o dimau’n
defnyddio’r gweithdy bob blwyddyn a chefnogwyd hyn drwy dri gweithdy hyfforddi’r hwylusydd a
gynhaliwyd rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023.
I gefnogi ein camau datgarboneiddio mewnol, rydym wedi creu rhwydwaith staff i gefnogi datblygu
cynaliadwy. Mae ein rhwydwaith Eiriolwyr Gwyrdd wedi parhau i dyfu ac yn darparu sesiynau anffurfiol
chwarterol amser cinio i alluogi trafodaeth, dysgu a gweithredu ar lefel tîm ac unigol. Rydym hefyd wedi datblygu e-ganllawiau ac adnoddau amrywiol i gefnogi staff i ymgorffori ymddygiad cynaliadwy, i helpu i
leihau eu hallyriadau yn y gwaith a gartref. Mae hyn yn cynnwys yr e-ganllaw ‘Byddwch y Newid - Gweithio Gartref a Gweithio Ystwyth Cynaliadwy’ ar ‘Her Nodau Llesiant’.
Sefydlwyd y grŵp yn 2023. Mae’r cyflawniadau allweddol yn cynnwys:
Fel ‘hyrwyddwyr addysg’, fe wnaethom wahodd staff o bob rhan o GIG Cymru i gymryd rhan mewn gweithdai
‘Galwad i Weithredu’ ar-lein yn 2022. Cynlluniwyd y gweithdai ar-lein hyn i helpu i nodi camau gweithredu i
leihau ein heffaith ar Newid yn yr Hinsawdd er mwyn cefnogi’r newid i GIG Cymru iach a charbon isel. Rydym
hefyd yn datblygu ein cynnig hyfforddi, sydd wedi cynnwys sesiynau Llythrennedd Carbon, gyda dros 100 o
staff yn cymryd rhan yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae’r Hwb hefyd wedi cyhoeddi ffeithlun gefnogi staff
i gymryd camau i leihau eu hôl troed carbon eu hunain a ffilm sy’n amlygu’r hyn y mae staff eisoes yn ei
wneud i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd.
Lansiwyd Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru ym mis Mehefin 2022. Fe’i
cynlluniwyd i gefnogi contractwyr gofal sylfaenol yng Nghymru (practis cyffredinol, fferyllfa gymunedol,
optometreg gymunedol a gofal deintyddol sylfaenol) i roi camau lliniaru ac addasiadau ar waith sy’n gyfeillgar
i’r amgylchedd. Yn cynnwys dros 50 o gamau gweithredu clinigol ac anghlinigol, mae’r Cynllun yn helpu
practisiau i ystyried sut y gallant fod yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol yn eu man gwaith, sut maent yn
gweithio a sut maent yn dylanwadu ar eraill, yn enwedig cleifion a’r cyhoedd, o ran newid yn yr hinsawdd.Rydym hefyd yn gweithio ar draws y system a chyda phartneriaid ledled Cymru a’r DU i ddarparu
arweinyddiaeth a helpu GIG Cymru i fynd i’r afael â meysydd blaenoriaeth penodol a nodwyd yng Nghynllun
Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru. Mae enghreifftiau'n cynnwys addysg drwy gynyddu'r
wybodaeth ymhlith y gweithlu gofal sylfaenol am newid yn yr hinsawdd; gofal iechyd a rheoli
meddyginiaethau drwy fynd i'r afael â meysydd allweddol o reoli meddyginiaethau, yn enwedig potensial
cynhesu byd-eang uchel anadlwyr a thrwy fynd i'r afael â gwastraff fferyllol ac yn benodol archwilio
cynlluniau gwastraff ailgylchu anadlwyr.