Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) yn golygu bod yn rhaid i Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyrff
cyhoeddus eraill ymdrechu i sicrhau Cymru gynaliadwy. Mae hyn yn golygu meddwl mwy am y tymor hir,
gweithio’n well gyda phobl Cymru, gyda’n gilydd a gyda’n cymunedau i atal problemau a chymryd agwedd
fwy cydgysylltiedig.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn parhau i fod yn ganolog i’n helpu i weithio tuag at Gymru lle
mae pobl yn byw bywydau hirach ac iachach a lle mae gan bawb fynediad teg a chyfartal at y pethau sy’n
arwain at iechyd da a llesiant, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Fel sefydliad rydym wedi croesawu’r Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy ac wrth wneud penderfyniadau
rydym yn ystyried yr effaith y gallai ei chael ar bobl sy’n byw eu bywydau yng Nghymru yn y dyfodol. Byddwn
yn parhau i gymhwyso’r Pum Ffordd o Weithio drwy ddatblygu ein Cynllun Datgarboneiddio a
Chynaliadwyedd
Mae cysylltiad arwyddocaol rhwng effeithiau newid yn yr hinsawdd ac iechyd a llesiant pobl. Yn 2023, fe
wnaethom nodi mynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd ar iechyd y cyhoedd fel un o’r chwe
Tudalen 7 o 33 Fersiwn 2 20/03/24 blaenoriaeth strategol yn ein Strategaeth Hirdymor. Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru rôl allweddol i’w chwarae o ran lleihau ei ôl troed carbon ei hun, nid yn unig i gefnogi targed sero net GIG Cymru a chyflawni’r camau gweithredu perthnasol yng Nghynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru, ond hefyd i wneud ein cyfraniad at leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Mae gan GIG Cymru ran sylweddol i’w chwarae wrth gyflawni datgarboneiddio ar draws y sector cyhoeddus;
wrth gynnal gwasanaeth iechyd diogel, effeithiol ac o ansawdd uchel. Wedi’i gyhoeddi gan Bartneriaeth
Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) ym mis Mawrth 2021, mae Cynllun Cyflenwi Strategol ar gyfer
Datgarboneiddio GIG Cymru (2021-2030) yn nodi mentrau a thargedau allweddol i sicrhau gostyngiad
uchelgeisiol ond cyraeddadwy mewn allyriadau carbon o weithrediadau GIG Cymru gan gynnwys:
Mae’r cynllun cyflenwi yn nodi 46 o fentrau ar gyfer datgarboneiddio GIG Cymru. Mae un o'r prif ymrwymiadau yn ei gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth ddatblygu Cynlluniau Gweithredu Datgarboneiddio, a fydd yn cael eu diweddaru'n rheolaidd ac yr ymrwymir iddynt o fewn Cynlluniau Tymor Canolig Integredig bob dwy flynedd. Bydd Cynllun Cyflenwi Strategol ar gyfer Datgarboneiddio GIG Cymru yn cael ei asesu a’i adolygu yn 2025 a 2030.
Targed Datgarboneiddio GIG Cymru |
Allyriadau (tCO2e) |
Gostyngiad canrannol o 2018/2019 |
Cyfanswm yr arbedion cronnol o fentrau fydd (tCO2e) |
---|---|---|---|
2025 | 845,600 | -16% | 459.000 |
2030 | 661,500 | -34% | 1,982,500 |
Mae cyflawni Sero Net yn golygu taro cydbwysedd rhwng allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (GHG) sy’n cael eu
rhyddhau i’r atmosffer a’r allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu tynnu drwy sinciau carbon naturiol a/neu
wrthbwyso carbon. Er mwyn cyrraedd sero net, bydd yn rhaid lleihau/gwrthbwyso allyriadau nwyon tŷ gwydr
o adeiladau, trafnidiaeth, darparu gwasanaethau a chaffael yn unol â chamau gweithredu a nodir yng
Nghynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru er mwyn cyflawni’r uchelgais i sector cyhoeddus
Cymru fod yn sero net ar y cyd erbyn 2030, fel y nodwyd yn yr ail gyllideb garbon ym mis Hydref 2021.Mae ein Cynllun Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd wedi’i gyd-gynhyrchu. Mae’n ymgorffori adborth ac
awgrymiadau a dderbyniwyd drwy ymgysylltu â staff a chynrychiolwyr ar draws y sefydliad. Mae’r Cynllun
yn amlinellu nifer o gerrig milltir allweddol a nodwyd o fewn pum ffrwd gweithgarwch i gefnogi
datgarboneiddio ein gweithrediadau:
Mae gwaith yr economi sylfaenol yn ystyried sut yr ydym yn gwario arian yng Nghymru a sut y gallwn wneud
gwell penderfyniadau o ran sut i’w wario. Mae GIG Cymru yn cyfrif am gyfran sylweddol o wariant cyhoeddus
yng Nghymru. Rydym am sicrhau ein bod yn gwario’r arian hwn mewn ffordd a fydd o fudd i’n pobl a’n
heconomi.
Mae rhaglen yr Economi Sylfaenol yn canolbwyntio ar:
Mae’n edrych ar sut a ble y gallwn gaffael nwyddau a gwasanaethau a all helpu economi Cymru a chefnogi
ein poblogaeth. Drwy wario ein cyllidebau yng Nghymru, byddwn yn cefnogi cwmnïau o Gymru sy’n darparu
swyddi a hyfforddiant mewn cadwyn gyflenwi leol. Mae cadwyni cyflenwi lleol hefyd yn well i'n hamgylchedd
ac yn gallu gwrthsefyll newidiadau byd-eang yn well.
Fel cyflogwr rydym am sicrhau bod pobl leol yn cael cyfleoedd i hyfforddi a dod o hyd i waith yn GIG Cymru
a gofal cymdeithasol ar bob lefel. Bydd hyn o fudd pellach i’n cymunedau. Wrth ystyried y gwerth y gall ein
gwariant ei ychwanegu at gymunedau, gallwn hefyd effeithio ar leoliad gwasanaethau a sut y gellir gosod
gwasanaethau gwahanol gyda'i gilydd i'w gwneud yn fwy hygyrch. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid a
chyflenwyr i gyflawni uchelgais rhaglen yr economi sylfaenol i flaenoriaethu gwario ein cyllidebau yng
Nghymru.
Rydym wedi sefydlu Grŵp Goruchwylio’r Economi Sylfaenol sydd â'r dasg o gydlynu a datblygu cyfleoedd a
gweithgareddau i ddatblygu'r Economi Sylfaenol yng Nghymru ymhellach. Mae hwn yn grŵp
amlddisgyblaethol gyda chynrychiolaeth o bob rhan o'r sefydliad.
Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran cefnogi’r Economi Sylfaenol dros y ddwy flynedd diwethaf,
gan gynnwys:
Mae'r economi gylchol yn ddewis arall i economïau llinol traddodiadol. Mewn economi linol, rydym yn
cymryd adnoddau, yn gwneud cynhyrchion, yn eu defnyddio, ac yna'n eu taflu fel gwastraff. Mae'r dull hwn
yn disbyddu deunyddiau crai cyfyngedig ac yn cynhyrchu llawer iawn o wastraff. Mewn cyferbyniad, nod yr
economi gylchol yw creu system fwy cynaliadwy ac effeithlon gyda’r manteision canlynol:
Trwy fabwysiadu egwyddorion economi gylchol, gallwn ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy ac mae'n
hanfodol ar gyfer arbed adnoddau, lleihau gwastraff, a lliniaru effaith amgylcheddol. Mae'n gam tuag at
ddyfodol mwy gwydn a chynaliadwy.
Mae cymunedau iach yn dibynnu ar ecosystemau iach. Mae’r ecosystemau’n darparu popeth sydd ei angen
arnom i oroesi – o aer a dŵr glân i fwyd a meddyginiaethau – ac mae rhwydwaith rhyng-gysylltiedig o
blanhigion ac anifeiliaid yn hanfodol i’w cadw i weithio.
Graffeg wedi’i gymryd o Ymchwil y Senedd, Papur Briffio Bioamrywiaeth 2021. Yn seiliedig ar Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol y DU.