Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ar gyfer lleoliadau Addysg a Gofal plant

Oherwydd esblygiad cyson ein dealltwriaeth o glefyd COVID-19, mae canllawiau'n cael eu hadolygu a'u diweddaru'n gyson. Fe'ch cynghorir i wirio'r dolenni isod yn rheolaidd i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Prif ffynonellau canllawiau Cymru ar COVID-19 yw Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru. Gall arweiniad gan gyrff eraill, gan gynnwys Llywodraeth y DU  ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr hefyd fod yn berthnasol yng Nghymru.


Yn sgil y symudiad i Lefel Rhybudd 0 a'r newidiadau i ganllawiau Llywodraeth Cymru, nid yw canllawiau presennol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer ysgolion a lleoliadau addysg yn berthnasol mwyach ac mae wedi'i ddirymu.

Byddwn yn adolygu'r angen am ganllawiau ICC ychwanegol yn ystod yr wythnosau nesaf.