Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth Brechlyn COVID-19

Yr hydref hwn, mae'r rhaglen frechu COVID-19 yn dechrau ar ei thrydydd tymor. Nod rhaglen frechu COVID-19 yw amddiffyn pobl yn erbyn salwch difrifol oherwydd feirws COVID-19.

Wrth i ni symud o ymateb pandemig i gyfnod adfer, yr amcan yw canolbwyntio'r cynnig brechu i'r rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf o glefyd difrifol ac felly'n fwyaf tebygol o gael budd o frechu. Mae COVID-19 yn fwy difrifol mewn pobl hŷn ac mewn pobl sydd â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes. Y gaeaf hwn rydym yn disgwyl gweld COVID-19 a ffliw yn mynd ar led ar yr un pryd, felly mae'n bwysig iawn cael eich amddiffyn i leihau'r risg o gael eich derbyn i'r ysbyty oherwydd yr heintiau hyn.

Efallai y gallwch gael brechlyn tymhorol COVID-19 yn ystod hydref 2023 os ydych yn wynebu risg uwch o fynd yn ddifrifol wael o COVID-19. Er enghraifft, oherwydd cyflwr iechyd neu eich oedran. Bydd eich bwrdd iechyd lleol yn cysylltu â chi os ydych yn gymwys i gael brechiad atgyfnerthu COVID-19 tymhorol.

Sicrhewch nad ydych yn oedi cael eich brechlyn COVID-19 os cewch eich cynghori i'w gael. Mae'n bwysig cael eich pigiad atgyfnerthu ac adeiladu eich amddiffyniad yn erbyn salwch difrifol cyn y gaeaf.

 

 

 

Bydd brechlynnau COVID-19 diogel ac effeithiol yn cynnig amddiffyniad unigol yn ogystal â mwy o amddiffyniad i'n hanwyliaid a'n cymunedau.