Neidio i'r prif gynnwy

Brech M

Mae brech M (a elwid gynt yn frech y mwncïod) yn haint prin sydd fwyaf cyffredin mewn rhannau o orllewin, canolbarth a dwyrain Affrica.  Mae'r risg o ddal brech M yng Nghymru yn isel.

Mae dau brif fath o frech M ar hyn o bryd.

Brech M, Clade II 

Ers mis Ionawr 2023, nid yw brech M Clade II bellach yn cael ei ystyried yn glefyd heintus â chanlyniadau pellgyrhaeddol (HCID) yn y DU.

Cafwyd nifer bach o achosion o Clade II yng Nghymru ers 2022.  Mae rhagor o wybodaeth am yr ymateb i frech M Clade II ar gael yma.

Brech M, Clade I 

Mae brech M Clade I yn cael ei hystyried yn glefyd heintus â chanlyniadau pellgyrhaeddol (HCID).   Hyd yma, cafwyd y math hwn o frech M mewn gwledydd ar draws gorllewin canol a dwyrain Affrica.  Ni chafwyd unrhyw achosion o'r math hwn o frech M yng Nghymru, nac yn y DU.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA), Iechyd Cyhoeddus yr Alban, ac Asiantaeth Diogelwch Iechyd Gogledd Iwerddon, ac rydym yn barod i ymateb i achosion o frech M Clade I sy'n glefyd heintus â chanlyniadau pellgyrhaeddol yng Nghymru, os ydynt yn digwydd.

Sut mae brech M yn cael ei throsglwyddo?

Gellir trosglwyddo brech M o berson i berson drwy:

  • Unrhyw gyswllt corfforol agos â phothelli neu grachod brech M (gan gynnwys yn ystod cyswllt rhywiol, cusanu, cofleidio neu ddal dwylo)
  • Cyffwrdd â dillad, dillad gwely neu dywelion a ddefnyddiwyd gan rywun â brech M
  • Peswch neu disian person â brech M pan fyddant yn agos atoch 

Mewn rhannau o orllewin, canol a dwyrain Affrica, gellir dal brech M hefyd o gnofilod heintiedig (fel llygod mawr, llygod a gwiwerod) os byddwch yn:

  • cael eich brathu
  • cyffwrdd â'u blew, croen, gwaed, hylifau'r corff, smotiau, pothelli neu grachod
  • bwyta eu cig ac nid yw wedi'i goginio'n drylwyr

Symptomau brech M

Os ydych yn cael eich heintio â brech M, mae fel arfer yn cymryd rhwng pump a 21 diwrnod i'r symptomau cyntaf ymddangos.

Mae symptomau cyntaf brech M yn cynnwys:

  • tymheredd uchel (twymyn)
  • pen tost/cur pen
  • poenau yn y cyhyrau
  • poen cefn
  • chwarennau chwyddedig
  • crynu (oerfel)
  • blinder eithafol
  • poen yn y cymalau

Mae brech fel arfer yn ymddangos rhwng un a phum diwrnod ar ôl y symptomau cyntaf. Gall fod ar unrhyw ran o'r corff, gan gynnwys cledrau'r dwylo, gwadnau'r traed, y geg, yr organau rhywiol a'r anws.

Efallai y byddwch hefyd yn cael poen yn y rhefr neu waedu o'ch pen ôl.

Weithiau mae'r frech yn cael ei drysu â brech yr ieir. Mae'n dechrau fel smotiau uchel, sy'n troi'n friwiau (wlserau) neu bothelli bach wedi'u llenwi â hylif. Yn y pen draw, mae'r pothelli yn ffurfio crachod sy'n disgyn i ffwrdd yn ddiweddarach.

Mae'r symptomau fel arfer yn clirio mewn ychydig wythnosau. Tra bydd gennych symptomau, gallwch drosglwyddo brech M i bobl eraill.

Ffoniwch eich meddyg teulu neu GIG 111 Cymru:

  •  os oes gennych frech gyda phothelli neu friwiau (wlserau) ac rydych wedi bod i ganol neu ddwyrain Affrica yn ystod y tair wythnos diwethaf
  • os oes gennych frech gyda phothelli neu friwiau (wlserau) ac rydych wedi bod mewn cyswllt agos (gan gynnwys cyswllt rhywiol) â rhywun sydd â symptomau brech M ac maent wedi bod i ganol neu ddwyrain Affrica yn ystod y tair wythnos diwethaf
  • mae gennych unrhyw symptomau eraill brech M ac rydych wedi bod i ganol neu ddwyrain Affrica yn ystod y tair wythnos diwethaf ac wedi cael cyswllt agos â rhywun oedd â symptomau brech M

Arhoswch gartref ac osgoi cyswllt agos â phobl eraill, gan gynnwys rhannu tywelion neu ddillad gwely, nes i chi gael gwybod beth i'w wneud.

Peidiwch â mynd i gyfleuster gofal iechyd oni bai bod gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn eich cyfarwyddo i wneud hynny.  Dywedwch wrth y person rydych yn siarad ag ef am eich hanes teithio diweddar.

Triniaeth ar gyfer brech M

Mae brech M fel arfer yn ysgafn a gall wella o fewn ychydig wythnosau heb driniaeth.
Ond os yw'ch symptomau yn fwy difrifol ac rydych yn mynd yn sâl, bydd angen triniaeth arnoch yn yr ysbyty.
Mae'r risg o fod angen triniaeth yn yr ysbyty yn uwch ar gyfer:

  • Pobl hŷn
  • Plant ifanc
  • Pobl â chyflwr neu sy'n cymryd meddyginiaeth sy'n effeithio ar eu system imiwnedd

Oherwydd y gellir trosglwyddo'r haint drwy gyswllt agos, mae'n bwysig ynysu os dywedir wrthych am wneud hynny.

Brechu i amddiffyn yn erbyn brech M

Mae brech M yn cael ei hachosi gan feirws tebyg i'r frech wen. Dylai brechlyn y frech wen (MVA) roi lefel dda o amddiffyniad yn erbyn brech M.  Mae rhagor o wybodaeth am frechiad brech M ar gael yma. 

Pethau y gallwch eu gwneud i osgoi cael a throsglwyddo brech M

Er bod brech M yn brin, mae pethau y gallwch eu gwneud i leihau eich siawns o'i chael a'i throsglwyddo.

Gwnewch y canlynol

  • Golchwch eich dwylo â sebon a dŵr yn rheolaidd neu defnyddiwch hylif diheintio dwylo ag alcohol
  • Cadwch lygad allan am unrhyw symptomau posibl brech M am dair wythnos ar ôl dychwelyd o orllewin, canol neu ddwyrain Affrica 
  • Siaradwch â phartneriaid rhywiol am eu hiechyd rhywiol ac unrhyw symptomau sydd ganddynt
  • Byddwch yn ymwybodol o symptomau brech M os ydych yn cael rhyw, yn enwedig os oes gennych bartneriaid rhywiol newydd
  • Cymerwch seibiant o ryw a chyswllt agos os oes gennych symptomau brech M nes i chi gael eich gweld gan feddyg a dywedir wrthych na allwch ei throsglwyddo

Peidiwch

  • Peidiwch â rhannu dillad gwely na thywelion â phobl a allai fod â brech M
  • Peidiwch â chael cyswllt agos (o fewn un metr) â phobl a allai fod â brech M
  • Peidiwch â mynd yn agos at anifeiliaid gwyllt neu anifeiliaid crwydr gan gynnwys anifeiliaid sy'n ymddangos yn sâl neu sydd wedi marw, wrth deithio yng ngorllewin, canol neu ddwyrain Affrica
  • Peidiwch â bwyta na chyffwrdd cig o anifeiliaid gwyllt wrth deithio yng ngorllewin, canol neu ddwyrain Affrica

Canllawiau teithio

Mae Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu'r DU yn parhau i adolygu ei chyngor teithio ar gyfer pob gwlad neu diriogaeth er mwyn sicrhau ei fod yn cynnwys y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf am y materion mwyaf perthnasol i bobl Prydain sy'n ymweld â'r ardaloedd hynny neu'n byw yno. 

Mae'r cyngor teithio yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd ac rydym yn argymell bod unrhyw un sy'n bwriadu teithio yn adolygu hyn ymlaen llaw, gan gynnwys dolenni i awdurdodau lleol a gwasanaethau i gael cyngor a gweithdrefnau pan fyddant yno.

Darperir rhagor o wybodaeth i deithwyr ar risgiau sy'n dod i'r amlwg gan y  Ganolfan a Rhwydwaith Cenedlaethol Iechyd Teithwyr. (Saesneg yn unig)

Mae’r wybodaeth ar y dudalen hon wedi’i haddasu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru o gynnwys gwreiddiol a gyflenwyd gan NHS UK.