Neidio i'r prif gynnwy

Pwy all fod yn rhan o Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus?

Mae pobl sy'n byw yng Nghymru 16 oed a throsodd yn cael eu gwahodd i ymuno ag Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus.

Mae  Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn grŵp o tua 2,500 o bobl sy’n adlewyrchu poblogaeth Cymru. Mae arnom angen ystod amrywiol o drigolion o bob rhan o Gymru i gymryd rhan fel ein bod yn casglu amrediad eang o safbwyntiau

Dim ond un aelod o bob cartref all fod yn rhan o grŵp Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus.

Os nad ydych yn gallu cymryd rhan, rhowch wybod i ni os oes gan rywun arall yn eich cartref ddiddordeb a gallwn ni wirio i weld a ydynt yn cyfateb i'r grwpiau rydym yn chwilio amdanynt ar hyn o bryd.