Rydym yn gwybod bod bywyd yn brysur, ac mae'n hawdd colli arolwg oherwydd gwyliau ac ati, felly os byddwch chi'n methu arolwg peidiwch â phoeni, byddem yn ddiolchgar pe gallech chi gymryd rhan yn yr un nesaf. Ar gyfer pob arolwg, mae Iechyd CyhoeddusCymru yn wirioneddol awyddus i gasglu data gan amrediad amrywiol o bobl fel bod y wybodaeth yn adlewyrchu pobl Cymru.
Byddwn ni'n parhau i'ch gwahodd i gymryd rhan ym mhob arolwg Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus pan fydd ar agor. Fodd bynnag, os byddwch yn methu tri arolwg yn olynol, gallech gael eich tynnu o Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus.