Neidio i'r prif gynnwy

Ysgolion iach yn ennill 23 o Wobrau Ansawdd Cenedlaethol yn 2018-19

Llongyfarchiadau i'r 23  o ysgolion yng Nghymru a dderbyniodd y Wobr Ansawdd Genedlaethol ar gyfer iechyd a llesiant dros flwyddyn academaidd 2018-19. 

Dyma'r anrhydedd uchaf y gall ysgol (meithrin, cynradd, uwchradd ac arbennig) ei chael drwy Gynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru Erbyn hyn, cyfanswm nifer yr ysgolion sydd wedi ennill y wobr yw 202.

Darperir y Cynllun gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ran Llywodraeth Cymru ac mae'n defnyddio dull ysgol gyfan i hyrwyddo iechyd a llesiant. Mae'n gweithio ar draws 22 o ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymru ac mae'n hybu iechyd pawb sy'n dysgu, yn gweithio ac yn chwarae yn yr ysgol.

Mae dull y Cynllun yn mynd i'r afael ag ethos, polisïau ac arferion pob ysgol, tra'n canolbwyntio hefyd ar beth sy'n digwydd yn yr ystafell ddosbarth ac ystyried y gymuned y tu hwnt i'r ysgol. Mae'n cynorthwyo ysgolion i alluogi disgyblion a staff i gymryd rheolaeth dros agweddau ar amgylchedd yr ysgol sy'n dylanwadu ar eu hiechyd yn ogystal ag addysgu disgyblion yn ffurfiol am sut i fyw bywydau iach.

Mae'r Wobr Ansawdd Genedlaethol yn cydnabod rhagoriaeth mewn arfer ysgol gyfan ar draws nifer o themâu sy'n gysylltiedig ag iechyd gan gynnwys:

•    Bwyd a ffitrwydd (maeth a gweithgarwch corfforol)
•    Iechyd a llesiant meddwl ac emosiynol, gan gynnwys llesiant staff
•    Datblygiad personol a pherthnasoedd, gan gynnwys addysg rhyw a pherthnasoedd
•    Defnyddio a chamddefnyddio sylweddau, gan gynnwys alcohol, smygu a defnyddio a chamddefnyddio cyffuriau (cyfreithiol, anghyfreithlon a phresgripsiwn)
•    Yr amgylchedd, gan gynnwys eco-fentrau a gwella'r ysgol a'r amgylchedd ehangach
•    Diogelwch, gan gynnwys amrywiaeth o bynciau fel amddiffyn plant, diogelwch yn yr haul, diogelwch ar y rhyngrwyd, a chymorth cyntaf
•    Hylendid ar draws lleoliadau ysgol a lleoliadau nad ydynt yn rhai ysgol

Dyma'r 23 o ysgolion yng Nghymru a dderbyniodd y Wobr Ansawdd Genedlaethol yn 2018-19:

•    Ysgol y Parc
•    Dŵr y Felin
•    Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng
•    Ysgol Gynradd Pengam
•    Ysgol Gynradd Sant Illtyd
•    Ysgol Esgob Morgan
•    Ysgol Llywelyn
•    Ysgol Gynradd Gaer
•    Ysgol Feithrin Rhydaman
•    Ysgol Rhos Helyg
•    Ysgol Gynradd White Rose
•    Ysgol Gynradd Llangrallo
•    Ysgol Gynradd Mount Pleasant
•    Ysgol Gynradd Ystrad Mynach 
•    Ysgol Gynradd Gymunedol Hafod-y-Wern
•    Ysgol Gynradd Libanus
•    Ysgol Gynradd Sirol Sandycroft
•    Ysgol Iau Llancaeach
•    Ysgol Gynradd St Andrew
•    Ysgol Gynradd Glyncoed
•    Ysgol Stanwell
•    Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Dinbych-y-pysgod  
•    Ysgol Gynradd Glasllwch

Meddai Gemma Cox, Prif Ymarferydd ar gyfer Lleoliadau Addysgol:

"Rydym wrth ein bodd bod yr ysgolion hyn wedi cael y Wobr Ansawdd Genedlaethol. Maent yn haeddu'r gydnabyddiaeth bwysig hon am eu hymrwymiad i ymgorffori'r dull ysgol gyfan o ran iechyd a llesiant yn niwylliant a gwead yr ysgol. Diolch yn fawr i'r holl Gydlynwyr Ysgolion Iach sydd wedi cefnogi'r ysgolion hyn i gyflawni'r wobr anhygoel hon.

“Mae'r cyflawniad hwn yn dangos sut y mae Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru yn galluogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i weithio mewn partneriaeth gyfartal ag ysgolion i wella iechyd a llesiant ein plant yn y dyfodol. Drwy gyfuno ein hymdrechion a'n hasedau mewn ffordd bwrpasol, gallwn greu Cymru iachach, hapusach a thecach.”