Llongyfarchiadau i'r 23 o ysgolion yng Nghymru a dderbyniodd y Wobr Ansawdd Genedlaethol ar gyfer iechyd a llesiant dros flwyddyn academaidd 2018-19.
Dyma'r anrhydedd uchaf y gall ysgol (meithrin, cynradd, uwchradd ac arbennig) ei chael drwy Gynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru Erbyn hyn, cyfanswm nifer yr ysgolion sydd wedi ennill y wobr yw 202.
Darperir y Cynllun gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ran Llywodraeth Cymru ac mae'n defnyddio dull ysgol gyfan i hyrwyddo iechyd a llesiant. Mae'n gweithio ar draws 22 o ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymru ac mae'n hybu iechyd pawb sy'n dysgu, yn gweithio ac yn chwarae yn yr ysgol.
Mae dull y Cynllun yn mynd i'r afael ag ethos, polisïau ac arferion pob ysgol, tra'n canolbwyntio hefyd ar beth sy'n digwydd yn yr ystafell ddosbarth ac ystyried y gymuned y tu hwnt i'r ysgol. Mae'n cynorthwyo ysgolion i alluogi disgyblion a staff i gymryd rheolaeth dros agweddau ar amgylchedd yr ysgol sy'n dylanwadu ar eu hiechyd yn ogystal ag addysgu disgyblion yn ffurfiol am sut i fyw bywydau iach.
Mae'r Wobr Ansawdd Genedlaethol yn cydnabod rhagoriaeth mewn arfer ysgol gyfan ar draws nifer o themâu sy'n gysylltiedig ag iechyd gan gynnwys:
• Bwyd a ffitrwydd (maeth a gweithgarwch corfforol)
• Iechyd a llesiant meddwl ac emosiynol, gan gynnwys llesiant staff
• Datblygiad personol a pherthnasoedd, gan gynnwys addysg rhyw a pherthnasoedd
• Defnyddio a chamddefnyddio sylweddau, gan gynnwys alcohol, smygu a defnyddio a chamddefnyddio cyffuriau (cyfreithiol, anghyfreithlon a phresgripsiwn)
• Yr amgylchedd, gan gynnwys eco-fentrau a gwella'r ysgol a'r amgylchedd ehangach
• Diogelwch, gan gynnwys amrywiaeth o bynciau fel amddiffyn plant, diogelwch yn yr haul, diogelwch ar y rhyngrwyd, a chymorth cyntaf
• Hylendid ar draws lleoliadau ysgol a lleoliadau nad ydynt yn rhai ysgol
Dyma'r 23 o ysgolion yng Nghymru a dderbyniodd y Wobr Ansawdd Genedlaethol yn 2018-19:
• Ysgol y Parc
• Dŵr y Felin
• Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng
• Ysgol Gynradd Pengam
• Ysgol Gynradd Sant Illtyd
• Ysgol Esgob Morgan
• Ysgol Llywelyn
• Ysgol Gynradd Gaer
• Ysgol Feithrin Rhydaman
• Ysgol Rhos Helyg
• Ysgol Gynradd White Rose
• Ysgol Gynradd Llangrallo
• Ysgol Gynradd Mount Pleasant
• Ysgol Gynradd Ystrad Mynach
• Ysgol Gynradd Gymunedol Hafod-y-Wern
• Ysgol Gynradd Libanus
• Ysgol Gynradd Sirol Sandycroft
• Ysgol Iau Llancaeach
• Ysgol Gynradd St Andrew
• Ysgol Gynradd Glyncoed
• Ysgol Stanwell
• Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Dinbych-y-pysgod
• Ysgol Gynradd Glasllwch
Meddai Gemma Cox, Prif Ymarferydd ar gyfer Lleoliadau Addysgol:
"Rydym wrth ein bodd bod yr ysgolion hyn wedi cael y Wobr Ansawdd Genedlaethol. Maent yn haeddu'r gydnabyddiaeth bwysig hon am eu hymrwymiad i ymgorffori'r dull ysgol gyfan o ran iechyd a llesiant yn niwylliant a gwead yr ysgol. Diolch yn fawr i'r holl Gydlynwyr Ysgolion Iach sydd wedi cefnogi'r ysgolion hyn i gyflawni'r wobr anhygoel hon.
“Mae'r cyflawniad hwn yn dangos sut y mae Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru yn galluogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i weithio mewn partneriaeth gyfartal ag ysgolion i wella iechyd a llesiant ein plant yn y dyfodol. Drwy gyfuno ein hymdrechion a'n hasedau mewn ffordd bwrpasol, gallwn greu Cymru iachach, hapusach a thecach.”