Neidio i'r prif gynnwy

Ymyriadau sy'n gallu cynorthwyo iechyd a llesiant pobl â gordewdra ar restrau aros gofal iechyd

Cyhoeddwyd: 13 Rhagfyr 2024

Mae adolygiad cyflym a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn cydweithrediad â Chanolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi nodi ymyriadau a allai helpu i gynorthwyo’r heriau y mae unigolion â gordewdra ar restrau aros hir ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru yn eu hwynebu. 

Ceisiodd yr adroddiad, ‘Ymyriadau ar gyfer cynorthwyo pobl â gordewdra ar restrau aros gofal iechyd’ nodi strategaethau graddadwy ar gyfer cynorthwyo iechyd a llesiant pobl â gordewdra ar restrau aros gofal iechyd, gan ganolbwyntio ar ymyriadau effeithlon o ran adnoddau y gellid eu gweithredu'n ymarferol o fewn cyfyngiadau gofal iechyd presennol 

Mae gordewdra wedi codi'n gyflym yn ystod y degawdau diwethaf ac ystyrir ei fod yn un o'r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf arwyddocaol ledled y byd. Yng Nghymru, amcangyfrifir bod tua un o bob pedwar o oedolion 16 oed a throsodd yn byw gyda gordewdra. 
 
Mae'r rhagamcanion yn awgrymu os bydd cyfraddau dros bwysau a gordewdra yn parhau i godi yn unol â'r tueddiadau diweddar yng Nghymru, erbyn 2050, gallai costau i'r GIG godi o £73 miliwn i tua £465 miliwn y flwyddyn, gyda'r costau cymdeithasol ehangach yn cyrraedd £2.4 biliwn. 

Ledled y DU, mae gwasanaethau i gynorthwyo pobl â gordewdra yn dilyn llwybr pedair haen sy'n cynyddu mewn dwyster er mwyn cyfateb i ddifrifoldeb a chymhlethdod gordewdra. Mae Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan yn nodi'r strategaeth yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'r galw am wasanaethau haen 3, sy'n darparu ar gyfer unigolion â gordewdra difrifol a chyflyrau iechyd cysylltiedig, wedi arwain at amseroedd aros o hyd at bum mlynedd mewn rhai ardaloedd. Mae'r arosiadau hir hyn yn creu'r risg o ddirywiad pellach o ran llesiant corfforol a meddyliol cleifion. 
 
Ni chanfu'r adolygiad cyflym hwn unrhyw astudiaethau yn gwerthuso ymyriadau graddadwy y gellid eu gweithredu o fewn cyfyngiadau adnoddau gwasanaethau rheoli pwysau haen 3 nodweddiadol yng Nghymru. 

Er gwaethaf hyn, gwnaeth yr ymchwilwyr nodi a chyfuno saith astudiaeth a gyhoeddwyd rhwng 2017 a 2024, a ganolbwyntiodd ar ymyriadau i gynorthwyo unigolion â gordewdra tra ar restrau aros, yn bennaf ar gyfer llawdriniaeth fariatrig. 

  • Rhaglenni Ymarfer Corff: mae tystiolaeth gyfyngedig yn nodi y gallai'r ymyriadau hyn wella ansawdd bywyd mewn rhai achosion, er bod y dystiolaeth yn anghyson. 
  • Cymorth sy'n seiliedig ar Negeseuon Testun, ymyriadau addysgol a chwnsela gweithgaredd corfforol: Canfu tystiolaeth gyfyngedig iawn o ansawdd isel bod mân welliannau o ran ansawdd bywyd, llesiant meddyliol a mesurau sy'n asesu'r corff fel pwysau. Ymyriadau Addysgol:  

Fodd bynnag, nododd yr adolygiad cyflym hefyd fylchau hanfodol yn y dystiolaeth: 

  • Dim Astudiaethau yn y DU: Roedd y diffyg astudiaethau a gynhaliwyd yn y DU wedi cyfyngu ar berthnasedd canfyddiadau sy'n bodoli eisoes o ran lleoliadau gofal iechyd lleol. 
  • Canolbwyntio ar Gleifion Haen 4: Mae'r rhan fwyaf o astudiaethau'n mynd i'r afael â'r cleifion sy’n aros am lawdriniaeth fariatrig (Haen 4) yn hytrach na gwasanaethau Haen 3, gan wneud eu perthnasedd i lwybrau Haen 3 presennol yng Nghymru yn ansicr. 
  • Tystiolaeth Gyfyngedig: Nid oedd unrhyw un o'r astudiaethau wedi asesu cost-effeithiolrwydd, ymgysylltu â chyfranogwyr, neu ymyriadau adnoddau isel sy'n addas ar gyfer gweithredu graddadwy 
  • Tystiolaeth o Ansawdd Isel: roedd y dystiolaeth a nodwyd o ansawdd isel ar y cyfan. 

Meddai Hannah Shaw, Prif Ddadansoddwr Tystiolaeth a Gwybodaeth ar gyfer y Gwasanaeth Tystiolaeth yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:   

“Gall yr amseroedd aros hir ar gyfer gwasanaethau Haen 3 effeithio'n sylweddol ar lesiant corfforol a meddyliol. Canfu'r adolygiad cyflym hwn dystiolaeth gyfyngedig a allai helpu'r rhai sy'n aros am amser hir i gael cymorth. Mae angen astudiaethau mwy cadarn arnom i archwilio atebion ymarferol a theg ar gyfer y grŵp hwn o bobl sy'n aros am gymorth a lliniaru'r risgiau iechyd hirdymor sy'n gysylltiedig ag oedi o ran gofal."