Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil mewn cymunedau glofaol yn datgelu sut mae hanes lleol yn dylanwadu ar faint sy'n manteisio ar frechiadau

Cyhoeddwyd: 12 Mai 2022

Mae pobl sy’n byw mewn ardaloedd sydd â thraddodiad glofaol cryf yn fwy tebygol o fod ag agweddau negyddol tuag at frechiadau COVID-19 a chyfnodau clo na phobl sy’n byw mewn ardaloedd nad oes ganddynt yr un hanes, yn ôl tîm o ymchwilwyr o Gymru a’r Unol Daleithiau. 

Roedd y nifer a fanteisiodd ar y brechlyn yn uchel er gwaethaf hyn, yn enwedig yng Nghymru, ac roedd teimlo eu bod yn rhan o gymuned leol gref yn gwneud pobl yn fwy tebygol o dderbyn y cynnig i gael eu brechu. 

Bu ymchwilwyr sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Kentucky yn cynnal arolygon a chyfweliadau yn gofyn i 9,000 o bobl sy’n byw yng Nghymru ac yn Central Appalachia am eu statws brechu ac am eu barn ynglŷn â COVID-19, eu statws economaidd, eu bywydau cymdeithasol, a’u dewisiadau gwleidyddol. Cyhoeddir eu canfyddiadau mewn adroddiad newydd, Covid and the Coalfield: Vaccine hesitance in Wales and Appalachia

Cafodd y project ei gyllido gan yr Academi Brydeinig, sef academi genedlaethol y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig ac mae’n rhan o raglen ymchwil fanwl i archwilio’r ffactorau sylfaenol y tu ôl i betruster a hyder pobl yn y brechlyn COVID-19 mewn gwahanol gymunedau.

Canfu’r ymchwilwyr fod pobl sy’n byw mewn ardaloedd glofaol yn fwy amheus ynghylch brechlynnau ac yn fwy amheus o adroddiadau swyddogol am y pandemig, o gymharu ag ardaloedd nad ydynt yn rhai glofaol. Yn Appalachia, roedd yr agweddau hyn yn cael eu hadlewyrchu trwy fod â chyfraddau is o frechu ymhlith y rhai a oedd yn byw mewn ardaloedd glofaol, ond yng Nghymru roedd cyfraddau brechu yn debyg yn yr ardaloedd glofaol ac mewn ardaloedd eraill. 

Yn y ddwy wlad, roedd pobl a oedd wedi'u hynysu'n gymdeithasol yn llai tebygol o gael eu brechu, fel yr oedd pobl a oedd wedi profi caledi economaidd yn ystod y pandemig.  

Roedd y rhai oedd heb eu brechu yn fwy tebygol o fod wedi pleidleisio dros Blaid Brexit neu’r Blaid Werdd yng Nghymru ac i Donald Trump yn yr Unol Daleithiau. Yng Nghymru, roedd cysylltiad hefyd rhwng peidio â chael eu brechu a safbwyntiau mwy negyddol tuag at ddatganoli yng Nghymru. Yn y ddwy wlad, roedd pobl nad ydynt yn bwrw pleidlais yn llai tebygol o fod wedi cael eu brechu. 

Dywedodd Dr Christopher Saville, Darlithydd Clinigol ym Mhrifysgol Bangor ac aelod o’r tîm ymchwil: 

“Mae ardaloedd glofaol De Cymru a Central Appalachia yn rhannu profiadau o ddiwydiannu a dad-ddiwydiannu sydd wedi gadael etifeddiaeth o anghydraddoldebau iechyd, cymdeithasol ac economaidd sy’n parhau hyd heddiw. Yn fwy cadarnhaol, mae gan bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hyn ymdeimlad cryf o gymuned ac undod â'i gilydd. Mae deall y rôl y mae’r ffactorau hyn yn ei chwarae mewn ymgyrchoedd brechu yn hollbwysig gan fod ein penderfyniadau ynghylch brechu yn cael eu llywio gan awydd i amddiffyn pobl o’n cwmpas, yn ogystal â ni ein hunain.” 

“Mae’n ymddangos bod cymryd rhan mewn gweithgareddau - megis clybiau chwaraeon, undebau llafur, clybiau cymdeithasol a sefydliadau cymunedol, neu bleidleisio hyd yn oed - sef pethau sy’n cryfhau’r gwead cymdeithasol yn arwain at agweddau mwy cadarnhaol tuag at frechiadau. Mae hyn yn fewnwelediad gwerthfawr a allai gyfrannu at yr adferiad ôl-Covid, yn enwedig mewn ardaloedd lle nad yw COVID-19 ond un o nifer o heriau a wynebwyd dros y degawdau diwethaf, a gall hyd yn oed ein helpu i baratoi ar gyfer unrhyw bandemig arall yn y dyfodol.” 

Dywedodd yr Athro Daniel Thomas, Epidemiolegydd Ymgynghorol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac aelod o’r tîm ymchwil: 

“Mae’r cyfle i weithio gydag ymarferwyr iechyd cyhoeddus yn Nwyrain Kentucky i edrych ar sut mae rhanbarthau meysydd glo Cymru a’r Unol Daleithiau wedi datblygu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn hynod ddiddorol ac yn hynod werth chweil.  Rwy’n gobeithio y bydd modd i ni adeiladu ar y bartneriaeth hon ac ar y dysgu ar y cyd a wnaeth cydweithwyr yn yr Unol Daleithiau a Chymru i helpu i wella iechyd y cyhoedd mewn cymunedau glofaol ar ddwy ochr cefnfor yr Iwerydd.”