Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar achos Coronafeirws Newydd (COVID-19)

Bydd y stori newyddion yma yn cael ei diweddaru yn ddyddiol efo'n datganiad diweddaraf am 12pm

Diweddariad: 6.25pm, Dydd Sadwrn, Mawrth 2020

Dywedodd Dr Chris Williams, Cyfarwyddwr Digwyddiadau ar gyfer yr ymateb i achosion o’r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

"Mae'r Prif Swyddog Meddygol heddiw wedi cadarnhau marwolaeth dau o drigolion Cymru a oedd wedi profi'n bositif am Coronafeirws Newydd (COVID-19).  Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig ein cydymdeimlad diffuant â theuluoedd a ffrindiau yr effeithiwyd arnynt.

"Mae pump o bobl yng Nghymru a brofodd yn bositif am y Coronafeirws Newydd (COVID-19) wedi marw erbyn hyn.

"Mae'r Prif Swyddog Meddygol wedi cadarnhau bod y cleifion yn 75 oed, fu farw yn Ysbyty Singleton, a 98 oed, fu farw yn Ysbyty Gwynedd.  Roedd gan y ddau glaf gyflyrau sylfaenol.

"Ni fydd rhagor o fanylion am yr unigolion yn cael eu rhyddhau, a gofynnwn i'r rhai sy'n adrodd ar y sefyllfa barchu cyfrinachedd cleifion."

SYLWCH: Cywirwyd y datganiad hwn am 18:00 ar 21 Mawrth i adlewyrchu bod claf wedi marw yn Ysbyty Gwynedd, ac nid Ysbyty Glan Clwyd.

 

Diweddariad: 12pm, Dydd Sadwrn, 21 Mawrth 2020

Dywedodd Dr Chris Williams, Cyfarwyddwr Digwyddiadau ar gyfer yr ymateb i achosion o’r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae 89 o achosion newydd wedi profi’n bositif ar gyfer Coronafeirws Newydd (COVID-19) yng Nghymru, gan wneud cyfanswm yr achosion sydd wedi’u cadarnhau yn 280, ond mae’r nifer gwirioneddol o achosion yn debygol o fod yn uwch. Mae Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn bodoli ym mhob rhan o Gymru nawr.       

“Mae tri o bobl yng Nghymru a brofodd yn bositif ar gyfer Coronafeirws Newydd (COVID-19) wedi marw yn awr.

“Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda byrddau iechyd, GIG 111 a Llywodraeth Cymru er mwyn datblygu systemau fel bod GIG Cymru ac aelodau’r cyhoedd yn cael mynediad priodol at brofion am Goronafeirws Newydd (COVID-19). Yn seiliedig ar asesiad risg gofalus, bydd y profion yn cael eu hehangu fesul cam, gan ddechrau gyda’r gweithwyr gofal iechyd sydd ar y rheng flaen sy’n rhoi gofal clinigol i gleifion.                 

“Mae’r gallu i brofi’n cael ei ehangu ac mae’n cael ei flaenoriaethu ar hyn o bryd ar gyfer cleifion, gweithwyr gofal iechyd ar y rheng flaen sy’n rhoi gofal clinigol i gleifion, ac eraill os argymhellir hynny gan gyfarwyddwyr meddygol y bwrdd iechyd. Wrth i’n gallu ni i brofi gynyddu, bydd rhagor o gyfarwyddyd yn cael ei roi i’r rhai sy’n gymwys i gael eu profi.

“Dylai aelodau’r cyhoedd ddilyn y cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf.”

Dyma’r cyfarwyddyd diweddaraf:

  • Dylai pobl sy’n byw gydag eraill aros gartref am 14 diwrnod os oes ganddynt hwy, neu unrhyw un yn eu cartref, naill ai dymheredd uchel neu beswch newydd a pharhaus 
  • Dylai pobl sy’n byw ar eu pen eu hunain aros gartref am saith diwrnod os byddant yn datblygu tymheredd uchel neu beswch newydd a pharhaus
  • Dylai pawb osgoi cyswllt nad yw’n hanfodol gydag eraill a theithio diangen; mae tafarndai, bwytai, canolfannau hamdden a lleoliadau tebyg ar gau ar hyn o bryd i atal lledaenu’r haint mewn llefydd caeedig
  • Dylai pawb weithio o gartref os yw hynny’n bosib 
  • Bydd pobl dros 70 oed a grwpiau agored i niwed o unrhyw oedran yn cael eu cynghori yn ystod y dyddiau nesaf i warchod eu hunain rhag cyswllt cymdeithasol am sawl wythnos

Dylai pobl sy’n aros gartref am 14 diwrnod oherwydd achos arall o salwch yn y cartref, ac sy’n datblygu symptomau, hunan-ynysu wedyn am saith diwrnod ar ôl i’w symptomau ymddangos.             

Dylai pobl sy’n hunan-ynysu, neu mewn cartref gyda rhywun sy’n hunan-ynysu, ddarllen y canllawiau aros gartref yn llawn.

Am y canllawiau yn llawn, ewch i wefan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol: https://www.gov.uk/government/topical-events/coronavirus-covid-19-uk-government-response  

Dywedodd Dr Chris Williams: “Nid oes raid i bobl gysylltu â GIG 111 mwyach os ydynt yn meddwl eu bod wedi dal Coronafeirws Newydd (COVID-19). Mae cyngor am y feirws ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.      

“Dylai pobl gyda thymheredd uchel neu beswch parhaus aros gartref am saith diwrnod os ydynt yn byw eu hunain, neu 14 diwrnod os ydynt yn byw gyda phobl eraill. Dylai unrhyw un sy’n byw gyda rhywun sydd â symptomau coronafeirws aros gartref am 14 diwrnod. Ni ddylent fynd i feddygfa, fferyllfa nac ysbyty.  

“Dim ond os ydynt yn teimlo na allant ymdopi â’u symptomau gartref ddylent gysylltu â GIG 111, os yw eu cyflwr yn gwaethygu neu os nad yw eu symptomau yn gwella ar ôl saith diwrnod.  

“Dim ond os ydych chi’n profi argyfwng sy’n bygwth eich bywyd ddylech chi ffonio 999, peidiwch â ffonio 999 dim ond am eich bod yn gorfod aros am ymateb ar 111. Rydym yn gwerthfawrogi bod llinellau 111 yn brysur, ond byddwch yn cael ateb dim ond i chi aros.

“Mae’r cyhoedd yn chwarae rhan bwysig iawn mewn arafu lledaeniad yr haint. Drwy ddilyn y cyngor diweddaraf, byddwch yn eich gwarchod eich hun a’r bobl fwyaf agored i niwed ac yn helpu i leihau’r pwysau ar GIG Cymru ac effaith y feirws.”

Achosion yn ôl ardal breswyl bwrdd iechyd

Bwrdd Iechyd

Achosion newydd

Achosion cronnus

I gael ei gadarnhau

0

1

Preswylio y tu allan i Gymru

0

2

Bae Abertawe

7

41

Aneurin Bevan

53

145

Betsi Cadwaladr

1

8

Caerdydd a’r Fro

22

51

Cwm Taf

2

9

Hywel Dda

3

14

Powys

1

9

Cyfanswm

89

280

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf a chyngor ar deithio ar gael o:

 

Mwy o wybodaeth ar ein tudalen Coronafeirws Newydd