Neidio i'r prif gynnwy

Ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i adolygiad annibynnol o'r achosion o TB yn Llwynhendy.

Cyhoeddwyd: 26 Ionawr 2023

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) wedi croesawu cyhoeddi’r adolygiad annibynnol o’r achosion hirsefydlog o dwbercwlosis (TB) Llwynhendy, ac wedi ymrwymo i ddysgu gwersi i adeiladu ar y gwelliannau sydd eisoes wedi’u gwneud ac wedi’u cydnabod gan yr adroddiad.

Er bod yr adroddiad wedi canfod bod gwelliannau i reolaeth yr achosion a’r ddarpariaeth gofal iechyd lleol yn “sylweddol”, dywedodd hefyd fod y rhannau o reolaeth cyfnodau cynnar yr achosion yn annigonol. Roedd hyn yn cynnwys oedi cyn gwneud diagnosis o TB ysgyfeiniol yr achos cyntaf a oedd yn golygu ei fod yn hynod heintus am gyfnod hir o amser, nid oedd yr ymateb cychwynnol yn ymestyn olrhain cyswllt yn ddigonol.  Er ei bod yn cael ei hystyried yn foddhaol, nid oedd rheolaeth glinigol cleifion unigol â TB ar ddechrau'r achos wedi'i chydgysylltu oherwydd diffyg gwasanaeth TB penodedig a chlinigydd arweiniol.

Yn ogystal, canfu'r adolygiad fod angen mwy o fanylion penodol ar y protocol ar gyfer rheoli digwyddiadau ac achosion o TB ynghylch monitro'r achosion a chofnodi canlyniad y cysylltiadau dilynol.

Nododd yr adroddiad hefyd nad oes gan Gymru strategaeth genedlaethol ar gyfer TB. Er bod un wedi’i gynnig gan Grŵp Gweithredu Iechyd Resbiradol, hyd yma nid yw wedi’i fabwysiadu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru na Llywodraeth Cymru. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ystod newydd o gamau gweithredu i helpu i atal a rheoli TB yng Nghymru.

Roedd yr adroddiad yn cydnabod, yn ystod cyfnodau mwy diweddar yr achosion, fod y rheolaeth wedi gwella “yn sylweddol”, a bod y problemau gyda’r ddarpariaeth gofal iechyd lleol wedi cael sylw i raddau helaeth.

Yr Athro Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diogelu Iechyd a Gwasanaethau Sgrinio, a Chyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn estyn ein cydymdeimlad diffuant i bawb sydd wedi’u heffeithio gan yr achosion o dwbercwlosis (TB) yng nghymuned Llwynhendy, Sir Gaerfyrddin ers 2010.

“Fel sefydliad GIG, rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb i ddiogelu iechyd pobl Cymru o ddifrif, a dyna pam y comisiynwyd yr adolygiad annibynnol allanol hwn, i sicrhau ein bod yn dysgu o’r digwyddiad hwn ac yn cymryd camau i sicrhau ein bod yn gwneud newidiadau a gwelliannau. Rydym yn derbyn argymhellion yr adolygiad hwn yn llawn.

“Er i’r adolygiad ganfod bod rheolaeth iechyd y cyhoedd wedi gwella’n sylweddol yng nghamau diweddarach yr achosion, mae’n amlwg nad oedd yr ymateb cychwynnol yn foddhaol ac y gallai ein holrhain cyswllt a’n rheolaeth o’r Tîm Rheoli Achosion fod wedi bod yn well. Mae'n wir ddrwg gennym i unrhyw un a allai fod wedi cael ei effeithio.

“Mae rheoli achos mor gymhleth o TB yn heriol oherwydd y rhwydweithiau cymdeithasol cywrain a’r amserlenni estynedig yn aml ond rydym am sicrhau’r cyhoedd ein bod eisoes wedi ystyried y gwersi a amlygwyd yn yr adolygiad, ac wedi gwneud gwelliannau sylweddol yn y ffordd yr ydym yn ymdrin ag achosion o'r fath.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dymuno sicrhau’r cyhoedd bod gwersi wedi’u dysgu a’n bod ni wedi cyhoeddi cynllun gweithredu llawn i fynd i’r afael ag argymhellion yr adolygiad. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i weithredu i godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, er mwyn lleihau'r risg o unrhyw achosion yn y dyfodol; rhoi prosesau penodol ar gyfer TB ar waith i sicrhau bod cysylltiadau rhwng achosion yn cael eu datgelu'n gyflym; a chytuno â Llywodraeth Cymru ar strategaeth TB a chynllun cyflawni i leihau nifer yr achosion o dwbercwlosis yng Nghymru.

“Rydym hefyd yn atgoffa pobl nad yw’r achos hwn ar ben. Rydym yn annog y 470 o bobl yr ysgrifennwyd atynt a’u gwahodd i gael eu sgrinio, ond nad ydynt wedi ymateb i’w gwahoddiad eto, i ddod ymlaen.”

Dywedodd yr Athro Philip Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol a Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

“Rydym yn cydnabod yr effaith y mae’r achos hwn wedi’i gael ar gymuned Llwynhendy ac ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, rwy’n cydymdeimlo â phawb sydd wedi’u heffeithio.

“Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn derbyn argymhellion yr adolygiad yn llwyr ac wedi ymrwymo i gyflawni ein cynllun gweithredu i ddatblygu ein gwasanaeth TB lleol ar gyfer yr achosion parhaus hyn ac unrhyw achosion yn y dyfodol.

“Hoffwn ddiolch i’r Athro Mike Morgan a’i banel am eu gwaith ar yr adroddiad hwn sy’n darparu argymhellion pwysig ac annibynnol i sicrhau gwelliannau o ran rheoli unrhyw achosion o TB yn y dyfodol.

“Mae buddsoddiad a gwelliannau eisoes wedi’u gwneud i’r gwasanaeth TB o fewn y bwrdd iechyd a bydd hyn yn cael ei adolygu ymhellach i ddiwallu anghenion y boblogaeth leol.

“Nid yw’r achos hwn wedi dod i ben, ac rydym yn ailadrodd yr alwad i’r rhai sydd wedi’u gwahodd i gael eu sgrinio ond nad ydynt eto wedi dod ymlaen i wneud hynny cyn gynted â phosibl ac annog ymwybyddiaeth barhaus o fewn y gymuned o TB a’i symptomau.”

Gellir gweld yr adroddiad yn https://icc.gig.cymru/adolygiadtb/