Neidio i'r prif gynnwy

Ymarfer Sgrinio TB Cymunedol yn Llwynhendy – y camau nesaf

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu cymorth clinigol i'r cleifion hynny a nodwyd fel rhai y mae angen sylw pellach arnynt yn dilyn yr ymarfer sgrinio twbercwlosis (TB) cymunedol a gynhaliwyd yn Llwynhendy, Sir Gaerfyrddin ym mis Mehefin.

Cafodd mwy na 1400 o unigolion eu sgrinio am TB dros yr ymarfer tri diwrnod. Er na chafodd unrhyw achosion o glefyd TB gweithredol eu nodi yn y gymuned, canfuwyd 76 achos o TB cudd.

Nid yw TB cudd yn heintus ac ni ellir ei drosglwyddo i bobl eraill. Fodd bynnag, argymhellir triniaeth i atal yr haint rhag datblygu'n glefyd TB gweithredol. 

Bydd y 76 o unigolion a nodwyd fel rhai y mae ganddynt TB cudd wedi cael gwahoddiad ysgrifenedig i fynd i glinig TB penodedig yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli i drafod y canlyniadau a'r driniaeth.
Mae 53 o unigolion a nodwyd drwy'r ymarfer sgrinio fel rhai y mae angen profion eildro arnynt hefyd wedi cael gwahoddiad ysgrifenedig i fynd i un o'r clinigau.

Mae sgrinio wedi'i ohirio hefyd yn cael ei gynnig i tua 1100 o unigolion drwy wahoddiad yn unig ac ar sail apwyntiad. 

Mae hyn yn cynnwys unigolion nad oeddent yn gallu cael eu sgrinio neu a gafodd sgrinio rhannol yn unig yn y sesiynau sgrinio ym mis Mehefin, ac nifer o unigolion cymwys hynny sydd wedi cysylltu drwy'r llinell gymorth ers y sesiynau sgrinio ym mis Mehefin.

Mae'r camau hyn yn nodi diwedd cam sgrinio agored yr ymarfer sgrinio cymunedol, gyda rhagor o sgrinio bellach yn digwydd drwy wahoddiad yn unig.

Meddai Dr Brendan Mason, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Nod yr ymarfer sgrinio oedd nodi achosion gweithredol a chudd o TB ym mhoblogaeth Llwynhendy er mwyn i'r unigolion yr effeithir arnynt allu mynd i gael triniaeth.

“Wrth i ni ddechrau ar gam nesaf yr ymarfer, gofynnwn bod yr holl unigolion a aeth i gael eu sgrinio sy'n cael llythyr yn gofyn iddynt fynd i glinig i drafod y canlyniadau, yn sicrhau eu bod yn gwneud hynny. 
“Yn yr un modd, rydym yn annog yr holl unigolion sy'n cael gwahoddiad i fynd i un o'r sesiynau sgrinio gohiriedig, i sicrhau eu bod yn cysylltu â'r ganolfan sgrinio i drefnu apwyntiad pan fo'n gyfleus. 

“Mae'r camau hyn yn hanfodol er mwyn rheoli'r achos parhaus hwn”.

Fel mesur rheoli ychwanegol, caiff cleifion a gafodd ganlyniadau negyddol o'r sgrinio sydd yn 35 oed neu’n iau eu gwahodd gan Fwrdd  Prifysgol Hywel Dda i gael brechiad BCG yn yr wythnosau i ddod.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn y broses o drefnu clinigau BCG penodedig yn yr ardal i gynnal y brechiadau, a bydd y rhai sy'n gymwys i gael eu brechu yn cael eu hysbysu maes o law.