Neidio i'r prif gynnwy

Y Diweddaraf: Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i achosion o hepatitis acíwt mewn plant

Cyhoeddwyd: 23 Mai 2022

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) yn ogystal ag Iechyd Cyhoeddus yr Alban (PHS) a'r Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus (Gogledd Iwerddon) er mwyn ymchwilio i hepatitis acíwt mewn plant.

Mae ymchwiliadau rhagweithiol i ddod o hyd i achosion wedi nodi 17 o achosion yng Nghymru, sef cynnydd o bedwar achos ers y diweddariad diwethaf ar 6 Mai.

Mae nifer o ragdybiaethau yr ymchwilir iddynt ac mae'r wybodaeth a gasglwyd hyd yma yn awgrymu fwyfwy y gallai'r cynnydd yn yr achosion hyn fod yn gysylltiedig â haint adenofeirws, gyda ffactorau eraill yn debygol o fod yn chwarae rhan. Ceir diweddariadau rheolaidd ar yr ymchwiliad parhaus i'r achosion yn y DU ar wefan UKHSA.

Meddai Dr Ardiana Gjini, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: 
“Gall hepatitis achosi clefyd melyn a llid yr afu, felly dylai rhieni a gofalwyr fod yn ymwybodol o symptomau clefyd melyn – gan gynnwys arlliw melyn ar y croen sydd fwyaf amlwg yng ngwyn y llygaid.

“Rydym yn atgoffa'r cyhoedd i ymgyfarwyddo â hyn a symptomau eraill hepatitis yn sgil yr achosion hyn yn y DU.  

“Yn ogystal, mae pwysigrwydd cynnal arferion hylendid, yn enwedig sicrhau bod plant yn golchi eu dwylo'n iawn, yn helpu i leihau lledaeniad llawer o heintiau cyffredin.

“Atgoffir rhieni a gofalwyr y dylent gadw eu plant i ffwrdd o'r ysgol a gofyn am gyngor gan feddyg teulu neu arbenigwr priodol os bydd eu plentyn yn profi unrhyw symptomau sy'n gysylltiedig â hepatitis.”

Mae symptomau hepatitis yn cynnwys:

  • wrin tywyll
  • ysgarthion gwelw, lliw llwyd
  • croen coslyd
  • llygaid a chroen yn troi'n felyn (clefyd melyn)
  • poen yn y cyhyrau a'r cymalau
  • tymheredd uchel
  • chwydu a theimlo'n sâl
  • teimlo'n anarferol o flinedig drwy'r amser
  • colli archwaeth
  • poen yn y bol