Neidio i'r prif gynnwy

Y cyfryngau cymdeithasol yn ddull defnyddiol i epidemiolegwyr yn ystod y pandemig

Cyhoeddwyd: 7 Medi 2021

Yn sgil pandemig y coronafeirws mae epidemiolegwyr maes o bob rhan o'r byd yn defnyddio Twitter i gyflymu datblygiadau yn yr arbenigedd, yn ôl papur newydd wedi'i gyd-awduro gan yr Athro Daniel Thomas, Epidemiolegydd Ymgynghorol yn y Ganolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.  

Gan ddathlu'r Diwrnod Epidemioleg Maes y Byd cyntaf (7 Medi 2021), mae'r darn safbwynt, a gyhoeddwyd gan y Cyfnodolyn Rhyngwladol Clefydau Heintus, yn nodi sut y mae'r llwyfan cyfryngau cymdeithasol wedi galluogi epidemiolegwyr i ddod at ei gilydd a chadw i fyny â chyflymder y datblygiadau yr oedd y pandemig yn eu mynnu.  

Meddai'r Athro Daniel Thomas, a gyd-awdurodd y papur fel rhan o'i waith ar gyfer EPIET, Rhaglen Cymrodoriaeth Hyfforddiant Epidemioleg Maes Ewrop:   

“Mae pandemig COVID-19 wedi newid yn sylweddol y ffordd y mae gweithwyr proffesiynol iechyd cyhoeddus yn gweithio ac yn cyfathrebu. Dros gyfnod byr iawn, mae trefniadau gweithio o bell wedi dod yn norm, ac mae cyfarfodydd wedi symud ar-lein. Mae mesurau cadw pellter cymdeithasol wedi cyflymu tuedd tuag at gyfathrebu digidol. Ar yr un pryd, mae gwaith epidemiolegwyr wedi'i roi o dan y chwyddwydr gan newyddiadurwyr, llywodraethau a'r cyhoedd mewn ffordd na welwyd o'r blaen.”  

“Gyda'r cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn rhan annatod o'n cymdeithas dros y degawd diwethaf, mae Twitter bellach yn ddull cyfathrebu allweddol ac yn llwyfan ar gyfer rhwydweithio proffesiynol ymhlith epidemiolegwyr (#EpiTwitter). 

“Roedd y gwaith hwn yn rhan o'm hymrwymiad parhaus i ddatblygiad proffesiynol parhaus mewn epidemioleg maes, wrth i ni ymdrechu yn awr i gael rhagor o gyfleoedd hyfforddi a rhoi Iechyd Cyhoeddus Cymru ar flaen y gad o ran rhagoriaeth yn y maes hwn.” 

Mae ’Cyfryngau cymdeithasol ar gyfer epidemiolegwyr maes: Sut i ddefnyddio twitter yn ystod pandemig #Covid-19’ yn myfyrio ar y defnydd o Twitter gan epidemiolegwyr maes a microbiolegwyr iechyd y cyhoedd ar gyfer cyfnewid proffesiynol cyflym, cyfathrebu cyhoeddus gwyddoniaeth a datblygu proffesiynol yn ystod y pandemig. Mae'n trafod sut y gellir defnyddio Twitter mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn sefydliadau cartref gweithwyr proffesiynol ac yn ystod gwaith maes. Mae’r rhain yn cynnwys lledaenu gwybodaeth, cyfathrebu gwyddoniaeth ac eiriolaeth iechyd cyhoeddus, datblygu proffesiynol, rhwydweithio a chyfnewid profiad. 

Am ragor o wybodaeth: gweler y ddolen isod

Neu dilynwch #SoMe4epi