Roedd prif gyflawniadau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2019-20 yn ymwneud â’r Safonau Gweithredu yn ôl adroddiad a gafodd ei gymeradwyo mewn cyfarfod Bwrdd ar 24 Medi.
Mae Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg 2019-20 yn amlinellu cynnydd Iechyd Cyhoeddus Cymru tuag at gwrdd â gofynion Safonau’r Gymraeg. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn rhoi dyletswydd ar Iechyd Cyhoeddus Cymru i gydymffurfio â Rheoliadau Safonau’r Gymraeg er mwyn gwella ansawdd ac argaeledd gwasanaethau cyfrwng Cymraeg yr ymddiriedolaeth.
Mae’r adroddiad yn dangos bod dros 120 o reolwyr recriwtio wedi’u hyfforddi i ddefnyddio offeryn asesu i bennu a yw swydd yn gofyn am sgiliau Cymraeg. Dengys hefyd y bu cynnydd yn nifer y swyddi a gafodd eu hysbysebu fel ‘Cymraeg yn Hanfodol’ o 7 yn 2018–19 i 30 yn 2019–20.
Mae 95.09% o holl weithlu’r sefydliad wedi derbyn hyfforddiant Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg. Mae 89% o’r gweithlu wedi cofnodi’u gallu i siarad Cymraeg. Mae gan 188 o weithwyr sgiliau Cymraeg ar Lefel 4 a 5. Mae 345 o weithwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofrestru i ymgymryd â hyfforddiant ar-lein gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol ac mae pum gweithiwr wedi mynychu cwrs preswyl. Mae’r Rhwydwaith Dysgwyr yn rhoi’r cyfle i siaradwyr rhugl a dysgwyr ddod at ei gilydd i sgwrsio’n anffurfiol. Lluniwyd polisi drafft ar ddefnydd mewnol o’r Gymraeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Meddai Jan Williams, Cadeirydd y Bwrdd:
“Mae’r adroddiad yn dangos cynnydd cadarnhaol wrth weithredu Safonau’r Gymraeg, ac yn tanlinellu ymdrechion yr ymddiriedolaeth i wella.”
“Rydym yn cymryd ein dyletswyddau o dan drefn Safonau’r Gymraeg o ddifri ac rydym yn anelu at wneud gwelliannau parhaus yn ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae llawer o’n trigolion yn iawn i ddisgwyl gwasanaeth yn eu mamiaith ac rydym yn benderfynol o ddarparu hynny.”
Mae’r adroddiad yn nodi rhai o’r camau sydd wedi’u cymryd er mwyn cydymffurfio â gofynion y safonau. Manylir ar safonau cyflenwi gwasanaethau; llunio polisi; gweithredu; hybu a chadw cofnodion yn yr adroddiad.
Mae Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg 2019-20 ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar https://icc.gig.cymru/amdanom-ni/cynllun-cyhoeddi/y-gymraeg/