Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos 74: Canlyniadau arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd 'Sut ydym ni yng Nghymru?'

Cyhoeddwyd: 10 Medi 2021

Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi'u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Dyma'r canfyddiadau allweddol:  

  • dywedodd 54 y cant o bobl eu bod wedi bod yn poeni am effeithiau Brexit yn yr wythnos ddiwethaf (31 y cant yn poeni ‘ychydig’ a 23 y cant yn poeni ‘llawer’) 
  • dywedodd 62 y cant o bobl eu bod yn credu y byddwn yn gweld cyfyngiadau fel cadw pellter cymdeithasol a chau tafarndai yn dod yn ôl yng Nghymru rywbryd yn ystod y 6 mis nesaf 
  • Pan ofynnwyd iddynt pa un o'r tri mater canlynol oedd bwysicaf i ddyfodol Cymru yn eu barn nhw:  
    • dewisodd 52 y cant o bobl wella gofal iechyd fel y gall pobl fyw bywydau iachach am gyfnod hwy 
    • dewisodd 29 y cant o bobl ddiogelu'r blaned ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol 
    • dewisodd 19 y cant o bobl wneud cymdeithas yn fwy cyfartal a thecach i bawb. 

Mae adroddiad diweddaraf yr arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd ar y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu'r cyfnod 30 Awst i 5 Medi 2021, pan gafodd 600 o bobl eu holi. 

Bob pythefnos mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfweliadau â channoedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru. 

Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws.