Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos 72: Canlyniadau arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd 'Sut ydym ni yng Nghymru?'

Cyhoeddwyd: 27 Awst 2021

Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi'u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Dyma'r canfyddiadau allweddol:  

  • dywedodd 89 y cant o'r holl gyfranogwyr a oedd wedi cael dau ddos o'r brechlyn coronafeirws y byddent am gael brechiad atgyfnerthu pe baent yn cael cynnig un.  
  • dywedodd 89 y cant o'r holl gyfranogwyr a oedd wedi cael dau ddos o'r brechlyn coronafeirws ac sy'n dymuno cael brechiad atgyfnerthu a brechiad rhag y ffliw y byddent yn hapus i gael y rhain ar yr un pryd. 
  • dywedodd 79 y cant o gyfranogwyr 50 oed a throsodd eu bod yn bwriadu cael brechiad rhag y ffliw y gaeaf hwn. dywedodd 71 y cant eu bod wedi cael brechiad rhag y ffliw y gaeaf diwethaf. 
  • roedd 77 y cant yn cefnogi'r gofyniad parhaus am orchuddion wyneb mewn siopau a mannau cyhoeddus dan do eraill yng Nghymru. nid oedd 18 y cant yn cefnogi hyn ac roedd 4 y cant yn ansicr. 

Mae adroddiad diweddaraf yr arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd ar y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu'r cyfnod 16 i 23 Awst 2021, pan gafodd 620 o bobl eu holi. 

Bob pythefnos mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfweliadau â channoedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru. 

Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws.