Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos 68: Canlyniadau arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd 'Sut ydym ni yng Nghymru?'

Cyhoeddwyd: 30 Gorffennaf 2021

Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi'u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dyma'r canfyddiadau allweddol:  

  • dywedodd 28% o bobl ‘nad oeddent yn bryderus o gwbl’ am y cynllun i ddod â'r rhan fwyaf o'r cyfyngiadau Coronafeirws i ben ar 7 Awst. roedd 31% ychydig yn bryderus, 26% yn weddol bryderus a 15% yn bryderus iawn. 
  • dywedodd 97% y byddant yn parhau i hunanynysu os bydd ganddynt symptomau Coronafeirws ar ôl i'r cyfyngiadau ddod i ben. 
  • dywedodd 73% o bobl y byddant yn osgoi mannau poblog pan fydd cyfyngiadau Coronafeirws yn dod i ben. 
  • dywedodd 63% o bobl y byddant yn osgoi teithio dramor pan fydd cyfyngiadau Coronafeirws yn dod i ben. 
  • dywedodd 13% o bobl eu bod yn bryderus iawn am ddal Coronafeirws; i fyny o 9% yn wythnos ddiwethaf yr arolwg. 
  • dywedodd 36% o bobl fod eu pryderon am newid hinsawdd wedi cynyddu ers dechrau'r flwyddyn ddiwethaf (cyn y pandemig); i fyny o 24% yn wythnos ddiwethaf yr arolwg. 

Mae adroddiad diweddaraf yr arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd ar y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu'r cyfnod 19 i 25 Gorffennaf 2021, pan gafodd 607 o bobl eu holi 

Bob pythefnos mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfweliadau â channoedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru. 

Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws.