Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos 66: Canlyniadau arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd 'Sut ydym ni yng Nghymru?'

Cyhoeddwyd: 23 Gorffennaf 2021

Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi'u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dyma'r canfyddiadau allweddol:  

  • roedd 50 y cant yn cytuno y dylai pobl sydd wedi cael y ddau frechiad allu cwrdd â'i gilydd heb gadw pellter cymdeithasol na gwisgo masgiau; i fyny o 42 y cant yn wythnos ddiwethaf yr arolwg. roedd 50 y cant yn anghytuno. 
  • roedd 81 y cant o bobl o'r farn bod y cyfyngiadau sydd ar waith i reoli coronafeirws yn ‘iawn fwy neu lai’; roedd 7 y cant o'r farn eu bod yn ‘rhy ychydig’ ac roedd 11 y cant o'r farn eu bod yn ‘ormod’. 
  • dywedodd 37 y cant o bobl eu bod yn dilyn cyfyngiadau coronafeirws ‘yn llwyr’, i lawr o 43 y cant yn wythnos ddiwethaf yr arolwg. 
  • dywedodd 9 y cant o bobl eu bod yn bryderus iawn am ddal coronafeirws ac roedd 25 y cant o bobl yn weddol bryderus;   i fyny o 5 y cant a 23 y cant yn wythnos ddiwethaf yr arolwg. 

Mae adroddiad diweddaraf yr arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd ar y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu'r cyfnod 5 i 14 Gorffennaf 2021, pan gafodd 653 o bobl eu holi 

Bob pythefnos mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfweliadau â channoedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru. 

Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws.