Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos 64: Canlyniadau arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd 'Sut ydym ni yng Nghymru?'

Cyhoeddwyd: 2 Gorffennaf 2021

Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi'u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dyma'r canfyddiadau allweddol:  

  • roedd 42 y cant o bobl yn cytuno y dylai pobl sydd wedi cael y ddau frechiad allu cwrdd â'i gilydd heb gadw pellter cymdeithasol na gwisgo masgiau; roedd 58 y cant yn anghytuno. 
  • dywedodd 8 y cant o bobl eu bod yn credu bod brechu yn eu hamddiffyn ‘yn llwyr’ rhag haint coronafeirws a 58% ei fod yn eu hamddiffyn ‘llawer’.   
  • O'r 9,516 o oedolion y cyfwelwyd â nhw rhwng wythnosau 31 a 62 (2 Tachwedd 2020 i 13 Mehefin 2021) nododd 16 y cant eu bod wedi cael Coronafeirws* 
  • O'r cyfranogwyr a nododd eu bod wedi cael symptomau coronafeirws, dywedodd 39 y cant fod eu symptomau wedi para o leiaf 4 wythnos; gyda 21 y cant yn dweud bod eu symptomau wedi para am fwy na 12 wythnos*  
  • Blinder oedd y symptom a nodwyd amlaf o COVID hir wedi'i ddilyn gan ddiffyg anadl 
  • Roedd oedolion hŷn, menywod ac unigolion â chyflyrau iechyd cronig (diabetes, clefyd y galon, clefyd yr ysgyfaint neu ganser) yn fwy tebygol o fod â symptomau'n para am o leiaf 4 wythnos. 

Mae adroddiad diweddaraf yr arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd ar y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu'r cyfnod 21 i 27 Mehefin 2021, pan gafodd 600 o bobl eu holi 

Bob pythefnos mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfweliadau â channoedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru. 

Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws.  

*Nid yw'r ffigurau wedi'u haddasu i roi cyfrif am ddemograffeg sampl neu boblogaeth. 

Arolwg