Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi'u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dyma'r canfyddiadau allweddol:
- Mae 88 y cant o bobl yn credu mai'r cyfyngiadau cenedlaethol lleol yw'r mesur cywir i'r llywodraeth fod wedi'i roi ar waith.
- Cydymffurfiodd 95 y cant o bobl â'r rheoliadau ynghylch aelwydydd yn cymysgu Ddydd Nadolig ac nid oedd 77 y cant wedi cwrdd â phobl o aelwydydd eraill rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
- Mae 64 y cant o'r rhai sydd â phlant yn yr aelwyd wedi bod yn poeni ‘llawer’ am addysg eu plant; i fyny o 58 y cant yn wythnos ddiwethaf yr arolwg.*
- mae 30 y cant o bobl wedi bod yn poeni ‘llawer’ am eu hiechyd meddwl a'u llesiant; i fyny o 24 y cant yn wythnos ddiwethaf yr arolwg.*
O'i gymharu â'r adeg hon y llynedd:
- Mae 40 y cant o bobl yn dweud bod eu pwysau wedi cynyddu; 16 y cant yn dweud ei fod wedi gostwng.
- mae 45 y cant o bobl yn dweud bod eu ffitrwydd corfforol wedi gwaethygu; mae 11 y cant yn dweud ei fod wedi gwella.
- mae 48 y cant o bobl yn dweud bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu; mae 6 y cant yn dweud ei fod wedi gwella.
- mae 66 y cant o bobl yn dweud bod eu perthnasoedd cymdeithasol wedi gwaethygu; 4 y cant yn dweud eu bod wedi gwella.
Mae adroddiad diweddaraf yr arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd ar y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu'r cyfnod 4 i 10 Ionawr 2021, pan gafodd 601 o bobl eu holi.
Bob pythefnos mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfweliadau â channoedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru.
Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws.
*14 i 20 Rhagfyr 2020.