Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos 40: Canlyniadau arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd 'Sut ydym ni yng Nghymru?'

Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi'u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dyma'r canfyddiadau allweddol: 

  • Mae 88 y cant o bobl yn credu mai'r cyfyngiadau cenedlaethol lleol yw'r mesur cywir i'r llywodraeth fod wedi'i roi ar waith.
  • Cydymffurfiodd 95 y cant o bobl â'r rheoliadau ynghylch aelwydydd yn cymysgu Ddydd Nadolig ac nid oedd 77 y cant wedi cwrdd â phobl o aelwydydd eraill rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
  • Mae 64 y cant o'r rhai sydd â phlant yn yr aelwyd wedi bod yn poeni ‘llawer’ am addysg eu plant; i fyny o 58 y cant yn wythnos ddiwethaf yr arolwg.* 
  • mae 30 y cant o bobl wedi bod yn poeni ‘llawer’ am eu hiechyd meddwl a'u llesiant; i fyny o 24 y cant yn wythnos ddiwethaf yr arolwg.*

O'i gymharu â'r adeg hon y llynedd:

  • Mae 40 y cant o bobl yn dweud bod eu pwysau wedi cynyddu; 16 y cant yn dweud ei fod wedi gostwng.
  • mae 45 y cant o bobl yn dweud bod eu ffitrwydd corfforol wedi gwaethygu; mae 11 y cant yn dweud ei fod wedi gwella.
  • mae 48 y cant o bobl yn dweud bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu; mae 6 y cant yn dweud ei fod wedi gwella.
  • mae 66 y cant o bobl yn dweud bod eu perthnasoedd cymdeithasol wedi gwaethygu; 4 y cant yn dweud eu bod wedi gwella.

Mae adroddiad diweddaraf yr arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd ar y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu'r cyfnod 4 i 10 Ionawr 2021, pan gafodd 601 o bobl eu holi.

Bob pythefnos mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfweliadau â channoedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru.

Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws. 

*14 i 20 Rhagfyr 2020.