Neidio i'r prif gynnwy

Uned Genomeg Pathogen Cymru yn llunio dilyniant genom ar gyfer mwy na 100,000 o samplau Coronafeirws

Cyhoeddwyd: 3 Tachwedd 2021

Mae'r Uned Genomeg Pathogen (PenGU) sy'n arwain y byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach wedi llunio dilyniant genom ar gyfer mwy na 100,000 o samplau COVID-19.

Mae’r data sy’n dod o'r broses o ddilyniannu'r samplau yn hanfodol o ran monitro sut y mae'r feirws yn datblygu yng Nghymru, ac i nodi amrywiolynnau newydd a pha effaith y gallent ei chael ar sut y mae'r feirws yn ymddwyn.

Meddai Dr Fu-Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diogelu Iechyd a Gwasanaethau Sgrinio a Chyfarwyddwr Meddygol Gweithredol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'r tîm yn PenGU wedi gweithio'n eithriadol o galed dros y pandemig er mwyn darparu gwasanaeth genomeg o'r radd flaenaf i Gymru.  Mae eu gwaith wedi bod yn sail i'r data gwyddonol sydd wedi'u defnyddio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth gynghori cydweithwyr ym maes polisi i helpu i ddiogelu pobl Cymru, ac mae cael cyfran mor uchel o samplau sy'n destun dilyniant genomeg mewn ffordd mor amserol wedi golygu ein bod wedi gallu aros yn wyliadwrus ynghylch amrywiolynnau newydd o COVID ac yn gallu cymryd camau iechyd cyhoeddus cynnar.

Meddai Dr Sally Corden, Pennaeth PenGU:  “Rwy'n hynod falch o'r ffordd y mae pawb yn y tîm wedi gweithio mor gaed i sefydlu, darparu a rhedeg y gwasanaeth hwn.  Mae Cymru yn un o'r gwledydd sy'n arwain y byd ym maes genomeg, ac mae ein gwaith dros y pandemig wedi gwella'r enw da hwnnw.  Hoffwn ddiolch i bawb yn y tîm sydd wedi cyfrannu at gyrraedd y garreg filltir hon, ac edrychwn ymlaen at yr un nesaf.”