Neidio i'r prif gynnwy

Tystiolaeth gymysg ar effeithiolrwydd ymyriadau rhoi'r gorau i ysmygu ar gyfer grwpiau â rhai problemau iechyd meddwl

Cyhoeddwyd: 27 Medi 2024

Mae adolygiad cyflym o'r llenyddiaeth bresennol sy'n edrych ar effeithiolrwydd mesurau rhoi'r gorau i smygu a dargedwyd yn benodol at bobl sy'n byw gydag iselder a/neu orbryder, wedi dangos darlun cymysg.

Nod Llywodraeth Cymru yw lleihau'r gyfradd smygu yng Nghymru o'r 13 y cant presennol i 5 y cant yn unig erbyn 2030, fel rhan o'u strategaeth ‘Cymru Ddi-fwg’.  Mae gan bobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl gyfradd uwch sy'n smygu ac maent hefyd yn llai tebygol o ymgysylltu â gwasanaethau rhoi'r gorau i smygu presennol, er gwaethaf y dystiolaeth bod rhoi'r gorau i smygu yn lleihau symptomau iselder a gorbryder ac yn cael effaith gadarnhaol ar hwyliau ac ansawdd bywyd.
Fel rhan o gydweithrediad parhaus â Chanolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, cynhaliodd y Gwasanaeth Tystiolaeth adolygiad cyflym o ymyriadau, i asesu eu haddasrwydd a'u heffeithiolrwydd tebygol pe byddent yn cael eu gweithredu yng Nghymru.  Gwnaethant ganfod 11 o astudiaethau – y mwyafrif ohonynt yn UDA, gydag eraill o wledydd Ewrop fel Ffrainc, Sbaen a'r Iseldiroedd – a gynhaliwyd rhwng 2008 a 2023.

Edrychodd yr astudiaethau ar amrywiaeth o ymyriadau a gyflwynwyd wyneb yn wyneb yn bennaf (er bod dwy astudiaeth wedi'u gwneud o bell), a oedd yn cynnwys rhaglenni a oedd yn canolbwyntio ar naill ai meddyginiaeth, therapïau siarad a therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT), neu weithgarwch corfforol i wella iechyd meddwl a chorfforol.
Canfu'r adolygiad fod y dystiolaeth ar effeithiolrwydd rhaglenni rhoi'r gorau i smygu wedi'u targedu at y grŵp penodol hwn o bobl yn anghyson.  Roedd gwahaniaethau rhwng sut y cynhaliwyd yr astudiaethau, eu methodolegau a'u canlyniadau, ac nid yw'n bosibl gwneud cymariaethau uniongyrchol rhyngddynt.

Roedd rhywfaint o dystiolaeth y gallai defnyddio meddyginiaeth neu therapïau siarad, fel CBT, helpu i leihau smygu mewn pobl ag iselder, ond nid oedd y canfyddiadau'n dangos yn gyson bod yr ymyriadau hefyd yn gwella iechyd meddwl cyfranogwyr.  Cafodd yr astudiaethau a ddefnyddiai ymyriadau seiliedig ar ymarfer corff ganlyniadau cymysg, ac nid oedd yn ymddangos eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl.

Meddai Dr Jordan Everitt, Uwch-ddadansoddwr Gwybodaeth a Thystiolaeth ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Gweithiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi'i gefnogi gan Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ar yr ymchwil hon er mwyn helpu i lywio ymgyrch Llywodraeth Cymru i gyflawni Cymru ddi-fwg erbyn 2030.  Mae'r adolygiad cyflym hwn o'r dystiolaeth bresennol yn dangos yr angen am ymchwil bellach yn y maes hwn, i gadarnhau pa ymyriadau sydd wedi'u targedu at y grŵp hwn o bobl sydd fwyaf effeithiol wrth leihau smygu.”