Cyhoeddwyd: 31 Mawrth 2021
Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus deintyddol yn tynnu sylw at gynnydd bach mewn tynnu dannedd o dan anesthesia cyffredinol mewn plentyndod rhwng 2022/23 a 2023/24.
Fodd bynnag, dylid dehongli'r cynnydd hwn yn ofalus gan fod gwasanaethau o bosibl yn ymadfer o hyd yn sgil effaith y pandemig COVID-19.
Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos i 8,901 o blant gael dannedd wedi’u tynnu o dan anesthetig cyffredinol yn 2013/14. Gostyngodd hyn i 3,362 yn 2022/23 ac roedd yn 3,572 yn 2023/24. Canfu'r adroddiad hefyd fod atgyfeiriadau ar gyfer rheoli pydredd dannedd fesul 1,000 o blant ar gyfradd o 16.9 yn 2022/23 a 17.1 yn 2023/24.
Nid yw tynnu dannedd o dan anesthetig cyffredinol yn rhydd rhag risg a dylid ei wneud fel dewis olaf yn unig. Gall iechyd gwael y geg arwain at bydredd dannedd, a gall fod angen tynnu dannedd os nad yw'n cael ei drin. Mae astudiaethau diweddar wedi dangos bod difrifoldeb pydredd dannedd yn gwella ar lefel y boblogaeth yng Nghymru, ond ei fod yn dal i effeithio ar draean o'r holl blant pum mlwydd oed.
Dywedodd Paul Brocklehurst, Ymgynghorydd Iechyd Deintyddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae'n bryder o hyd bod angen y math hwn o lawdriniaeth ar gryn nifer o blant.
"Mae sefydlu arferion hylendid deintyddol da yn gynnar ym mywyd plentyn yn hanfodol. Dylid annog rhieni a gwarcheidwaid i sicrhau bod lefel isel o siwgr yn niet eu plant a’u bod yn brwsio eu dannedd ddwywaith y dydd gyda phast dan-nedd fflworid.
"Mae rhaglen y Cynllun Gwên wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar iechyd deintyddol ar lefel y boblogaeth ac wedi chwarae rhan hanfodol wrth wella iechyd y geg ledled Cymru."