Neidio i'r prif gynnwy

Trosglwyddo cronfa ddata Arolwg Amenedigol Cymru Gyfan i Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae perchenogaeth o gronfa ddata Arolwg Amenedigol Cymru Gyfan (AWPS) wedi'i throsglwyddo i Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Casglodd yr AWPS wybodaeth am farw-enedigaethau a marwolaethau babanod yng Nghymru rhwng 1993 a 2012. Cynhaliwyd yr arolwg gan Brifysgol Caerdydd, gyda chymeradwyaeth gan y Grŵp Cynghori ar Gyfrinachedd a'r Pwyllgor Moeseg Ymchwil. Defnyddiwyd gwybodaeth o'r AWPS i baratoi ystadegau blynyddol ac i edrych ar batrymau'r marwolaethau hyn dros amser.

Roedd y wybodaeth ar y gronfa ddata yn cynnwys manylion am y fam, y tad a'r baban. Ar gyfer y fam, roedd hyn yn cynnwys: enw, cyfeiriad, dyddiad geni, statws priodasol, ethnigrwydd, statws cyflogaeth a hanes meddygol. Roedd y wybodaeth am y tad yn cynnwys cyfenw a statws cyflogaeth. Ar gyfer y babi, roedd hyn yn cynnwys: enw, dyddiad geni, dyddiad y farwolaeth, a gwybodaeth feddygol am ei enedigaeth a'i farwolaeth.

O 2013 ymlaen, mae'r wybodaeth hon wedi'i chasglu gan MBRRACE-UK (Mamau a Babanod: Lleihau Risg drwy Archwiliadau ac Ymholiadau Cyfrinachol ledled y DU). Er nad oes gwybodaeth newydd bellach yn cael ei hychwanegu at gronfa ddata AWPS, mae perchenogaeth o'r gronfa ddata wedi'i throsglwyddo i Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda chymeradwyaeth gan y Grŵp Cynghori ar Gyfrinachedd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod yr ystorfa wybodaeth hon ar gael i helpu i ddeall tueddiadau hirdymor ac er mwyn i glinigwyr lleol allu parhau i gael gafael ar y data 1993-2012 sy'n ymwneud â'u gwasanaeth eu hunain.  

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, pryderon neu wrthwynebiadau i'r wybodaeth hon gael ei chadw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gallwch ysgrifennu neu anfon e-bost at Dr Rosalind Reilly yn:

Dr Rosalind Reilly
Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus
Y Gyfarwyddiaeth Wybodaeth
Cwr y Ddinas 2
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ
rosalind.reilly@wales.nhs.uk