Neidio i'r prif gynnwy

Trosglwyddiad nosocomiaidd COVID-19: dau adroddiad newydd yn edrych ar effaith heintiau a gafwyd mewn gofal iechyd.

Cyhoeddwyd: 13 Mai 2022

Mae dau adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi edrych ar effaith trosglwyddiad nosocomiaidd Coronafeirws (a gafwyd yn yr ysbyty) yn ystod y pandemig.  Maent yn dangos bod cyfran y marwolaethau lle cafwyd Coronafeirws mewn lleoliadau gofal iechyd yn gyson â'r lefel mewn heintiau a gafwyd yn y gymuned.   

Edrychodd yr adroddiad cyntaf, ‘Marwolaethau mewn Achosion Nosocomiaidd COVID-19 yng Nghymru’ (Saesneg yn unig), ar ddata 9000 o gleifion â COVID-19 nosocomiaidd. Cafwyd bod y gyfradd marwolaethau o bob achos tua mis ar ôl diagnosis (a elwir yn farwolaethau o bob achos neu ACM) ar gyfer y cleifion hynny a oedd wedi dal COVID yn yr ysbyty, yn gyson â'r gyfradd yn y cleifion hynny yn yr ysbyty a oedd wedi dal COVID yn y gymuned – ar ôl rhoi cyfrif am ffactorau eraill.   

Yn amlwg, mae'r cleifion hynny yr oedd angen cyfnod estynedig arnynt yn yr ysbyty – mwy nag wythnos – yn fwy tebygol o fod â chydafiacheddau difrifol, fel diabetes neu gyflyrau cronig eraill.  Gwyddom fod y siawns o farw gyda COVID yn uwch gyda'r cydafiacheddau hyn.  Yn yr un modd, mae cleifion sydd eisoes yn yr ysbyty yn hŷn ar y cyfan, ac felly maent yn fwy tebygol o fod â'r cydafiacheddau hyn. Mae’r adroddiad yn defnyddio data sy'n ystyried y ffactorau hyn i roi darlun clir o effaith trosglwyddo nosocomiaidd ar ACM. 

Mae'r adroddiad yn dangos, ar ôl ystyried y ffactorau drysu hyn, nad oes gwahaniaeth sylweddol rhwng cyfradd marwolaethau'r rhai a gafodd Coronafeirws yn yr ysbyty o'i chymharu â'r rhai a gafodd yr haint yn gymuned ac a dderbyniwyd wedyn i'r ysbyty. 

Mae'r ail adroddiad, ‘COVID-19 Nosocomiaidd yng Nghymru: Gwersi a Ddysgwyd o Achosion yn yr Ysbyty, Medi 2020 - Ebrill 2021’ (Saesneg yn unig), yn edrych ar ail don y pandemig, ac yn adolygu'r gwaith o weithredu gwersi a ddysgwyd yn y don gyntaf yn ystod yr ail don.  Mae'n dangos pwysigrwydd adolygu a dysgu cyflym i gefnogi gofal diogel ac effeithiol parhaus. 

Roedd yr ail don yn llawer mwy heriol i leoliadau gofal iechyd na'r don gyntaf, yn bennaf oherwydd parhau â gofal rheolaidd mwy cynhwysfawr yn yr ail don, gan gynnwys gwasanaethau dewisol, ond yn y don gyntaf roedd hyn bron â'i ganslo.  Yn ogystal, nid oedd brechiadau ar gael yn eang tan yn ddiweddarach yn yr ail don hon, ac roedd lefel uchel o drosglwyddiad asymptomatig o'r Coronafeirws ymhlith staff, gan arwain at absenoldebau staff parhaus a gynyddodd y pwysau mewn gwasanaeth a oedd eisoes dan bwysau. 

Yn ystod yr ail don, cafodd rhai cleifion eu symud yn ddiangen, a allai fod yn gysylltiedig ag achosion.  Yn ogystal, mae seilwaith ysbytai yn her barhaus o ran atal a rheoli heintiau'n effeithiol.  Yn olaf, mae'r adroddiad yn nodi angen i ddefnyddio data o leoliadau cymunedol yn fwy effeithiol, gan y gall hyn weithredu fel ‘system rhybudd cynnar’ i alluogi staff ysbytai i weithredu'n rhagweithiol yn gyflymach, yn hytrach nag ymateb yn adweithiol pan fydd achosion COVID-19 yn digwydd. 

Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn ei gwneud yn glir bod rhai gwersi o'r don gyntaf wedi'i gweithredu wrth i ni wynebu'r ail don.  Roedd y rhain yn cynnwys mwy o ymwybyddiaeth o drosglwyddiad asymptomatig COVID, a hefyd y rhai a gyflwynodd gyda symptomau annodweddiadol – roedd y ddwy elfen hyn wedi dylanwadu ar brotocolau profi mewn ysbytai yn lleol ac yn genedlaethol.   

Yn ogystal, anogwyd staff i beidio â symud rhwng ardaloedd COVID ac ardaloedd nad oeddent yn rhai COVID, a gwiriadau symptomau dyddiol, ac roedd dyfodiad Dyfeisiau Llif Unffordd yn ddiweddarach yn y cyfnod wedi ei gwneud yn bosibl nodi staff a oedd yn asymptomatig neu â symptomau annodweddiadol cyn iddynt ddod i gysylltiad â chleifion. 

Mae’r adroddiad yn dod i'r casgliad bod y gweithredoedd hyn wedi lliniaru lledaeniad COVID mewn lleoliadau gofal iechyd a bydd y wybodaeth hon yn bwysig wrth reoli tonnau tymhorol COVID yn y dyfodol, neu heriau a gyflwynir gan amrywiolion newydd. 

Meddai Dr Eleri Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol a Phennaeth Rhaglen HARP ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Yn amlwg mae'r pandemig wedi bod yn her enfawr i staff ar draws pob lleoliad iechyd, ac maent wedi ymdrin â'r anawsterau niferus yn eithriadol o dda.  Yn anffodus, mae trosglwyddiad nosocomiaidd Coronafeirws wedi bod yn rhan sylweddol o'r darlun haint cyffredinol ym mhob gwlad yn y DU, ac mae'r adroddiadau hyn yn edrych arno'n fanwl. 

“Mae pob marwolaeth o'r Coronafeirws yn drasiedi i'r teulu, a chydymdeimlwn â'r holl deuluoedd sydd wedi bod drwy'r sefyllfa ofnadwy hon.   

“Mae'r adroddiad yn canfod bod marwolaethau lle roedd Coronafeirws wedi'i gael mewn lleoliadau gofal iechyd yn gyson â'r rhai sydd wedi'i gael mewn lleoliadau cymunedol, ar ôl ystyried ffactorau drysu. 

“Mae hefyd yn glir bod pwysau dwys yr ail don wedi ei gwneud yn anodd gweithredu'r holl wersi a ddysgwyd o'r don gyntaf.  Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi bod adolygu a dysgu cyflym o'r don gyntaf wedi arwain at weithredu rhai mesurau a oedd yn lliniaru yn erbyn lledaeniad nosocomiaidd COVID, a fydd wedi cael effaith gadarnhaol ar ein rheolaeth o'r ail don.”